Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. 𝔍. ℌ𝔞𝔯𝔯𝔦𝔢𝔰 𝔍𝔬𝔫𝔢𝔰, 𝔓𝔥.𝔇.

FEL PREGETHWR.
GAN Y PARCH. DAVID EVANS, M.A., ABERMAW.
Awdwr y "Sunday Schools of Wales," &c.

ER ei ragoriaethau fel myfyriwr ac athraw, fel pregethwr mawr a phoblogaidd, yn ddiau, yr erys Dr. Harries Jones hwyaf yn nghof y wlad. Yr oedd ynddo gydgyfarfyddiad bron o'r holl gymwysderau tuag at wneyd pregethwr mawr. Parheid drwyddo y neillduolion hyny ydoedd wedi perthyn i gewri pulpud yr oes o'r blaen yn Nghymru. Magwyd ef dan weinidogaeth Ebenezer Richards, W. Morris, Cilgerran, Richards, Abergwaun, Evans Llwynffortun, &c. Ac megys y dywedwyd am danynt hwy, "eu bod yn ddynion o bresenoldeb personol golygus ac awdurdodol, wedi eu cynysgaeddu â lleisiau o gwmpas a melodedd mawr, yr hwn drwy ymarferiad parhaus yr oeddynt wedi dysgu ei reoli, fel ag i fynegi gyda'r donyddiaeth gywreiniaf holl foddau amrywiol meddwl yr areithydd; ac yn enwedig yn meddu un o anhebgorion cyntaf llwyddiant areithyddol, yn arbenig felly yn y pulpud—difrifoldeb a dwysder tuhwnt i'r cyffredin," felly hefyd am Dr Harries Jones, ceid ynddo bresenoldeb hynod o ffafriol, wynebpryd agored a hawddgar, llygaid mawrion, llais soniarus, a gwresogrwydd ysbryd ydoedd yn rhoddi effeithiolrwydd dyblyg i'r gallu corfforol a feddai i floeddio yn swynol eiriau gwerthfawrocaf yr Iachawdwriaeth. Heblaw bod yn gydnabyddus ag arddull y cewri Cymreig, ac yn edmygydd o honynt, astudiodd hefyd y models goreu y daeth i gyfarfyddiad a hwy