Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Lloegr. Ysgotland, a Germani. Tra ar y Cyfandir, er ei holl awydd i ymberffeithio mewn mewn duwinyddiaeth, athronyddiaeth a'r ieithoedd Semitaidd, nid anghofiodd un adeg ei uchelgais penaf i fod yn bregethwr llwyddianus. Ymddengys fod ganddo feddwl uchel o Tholuck fel pregethwr, ac os gwnaeth un o bregethwyr Germani yn gynllun, Tholuck ydoedd hwnw. Cymharwyd Harries Jones, cyn yma, i'w gymydog poblogaidd John Jones, Blaenanerch, ac mewn llawer o bethau yr ydoedd yn ddiau yn debyg, megys o gorff, llais cryf a swynol, a'i gydymdeimlad dwfn a gwirionedd- au syml yr efengyl. Ond a chymeryd pobpeth yn nghyd, y mae yn rhaid rhoi y flaenoriaeth i'r Dr., oblegyd y meddai yr ychwanegiad pwysig o ddiwylliant meddyliol uchel, a chanlyniad naturiol gwres- ogrwydd ysbryd wedi ei danio ar arucheledd ei fater ydoedd ei floeddio; ac yn hyn dygai lawer o ddelw y Parch John Jones, Talsarn.

Hynodid ef yn aml gan arucheledd ei ddrychfeddyliau. Yr ydoedd bob amser yn fwy barddonol ac athronyddol, nag argyhoeddiadol, yn fwy tebyg i'r prophwyd Esaiah pan ar uchelfanau y maes na phan yn edliw i'r genedl ei phechodau. Ni thybiodd y Dr. y derbyniodd erioed y comisiwn hwnw a roddwyd i Esaiah _" Llefa å'th geg, nac arbed; dyrchafa dy lais fel udgorn, a mynega i'm pobl eu camwedd, a'u pechodau i dy Jacob." Yr oedd ei natur yn rhy dyner, a'i dueddfryd yn ormod i gymeryd yr olwg ffafriol ar bethau, i ddelio llawer mewn bygythion a dyfarniadau. Ei rodfeydd mwy dymunol ef oedd graslonrwydd trefn yr iachawdwriaeth, a'r neillduolion hyny sydd yn perthyn iddi ag sydd yn dwyn yr angel- ion i chwenychu edrych i mewn iddi. Ei nod mawr ef oedd dwyn ei wrandawyr i ryfeddu yn fwy nag i arswydo, i deimlo yn debyg o dan ei weinidogaeth ag y teimlai y bardd pan yn myfyrio uwch ben rhyfeddodau y drefn :-

Pan bwy'n rhyfeddu unpeth, peth arall ddaw i 'mryd;
O iachawdwriaeth rasol, rhyfeddol wyt i gyd."

Defnyddiai gydmariaethau, yn gystal o arferion cyffredin bywyd ag o faes eang ei ddarlleniadau clasurol, i egluro neu i brydferthu pynciau y drefn. Ni phetrusai yn wir gasglu blodau o feusydd chwedloniaeth baganaidd i addurno bedd Iachawdwr y byd, neu