Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i berarogli coffadwriaeth yr Hwn, er iddo farw, sydd eto yn fyw, ac wele byw a fydd yn oesoesoedd. Gweithiai allan ei ffigyrau yn gyflawn a chyson: ac wedi cael gafael ar ddrychfeddwl, ymhyfrydai yn y gwaith o'i ddadblygu a'i gymhwyso yn ei wahanol gysylltiadau. Yn y 68ain Salm, wedi cael lle i feddwl fod cyfeiriad yn y geiriau, "Y cantorion a aethant o'r blaen, a'r cerddorion ar ol," at orymdaith yr Arglwydd Iesu yn myned i mewn drwy byrth y Gaersalem fry, ar ol Ei esgyniad, gyda saint yr Hen Destament o'r o'r blaen, a saint y Newydd ar ol, cofus gan lawer gyda'r fath bryd. ferthwch a chyflawnder y desgrifiai yr olygfa ogoneddus. Yn ei bregeth ar yr adgyfodiad, desgrifiai long yr iachawdwriaeth yn cychwyn allan o'r porthladd, dri o'r gloch prydnawn diwrnod y croeshoeliad, ynghanol ystorm, ond cipiwyd hen leidr ar ei bwrdd o ymyl porth uffern, yn ernes o'r myrddiynau a gedwid ynddi cyn terfyn yr oruchwyliaeth. I egluro tybiaeth yr Apostol mai ofer ydoedd fydd y credinwyr, os Crist ni chyfodwyd, meddyliai am deulu wedi bod yn llafurio yn galed ar hyd eu hoes, ac yn byw yn gynil er mwyn cael ychydig wrth gefn yn eu hen ddyddiau, ond y fath siomedigaeth iddynt fyddai clywed fod y bank wedi tori, pan yr oeddynt ar fyned i bwyso ar eu hadnoddau allan o hono. Ond yr oedd y gyfryw siomedigaeth yn myned i'r cysgod o'i chydmaru â siomed— igaeth y credadyn, os ydoedd sail ei obaith ef yn profi yn dwyllod— rus. Gyda'r fath rym gan hyny yr adseiniai orfoledd yr Apostol wedi profi ei fater y tu hwynt i bob dadl, "Eithr yn awr Crist a gyfodwyd oddiwrth y meirw, ac a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant." Hapus, yn ddieithriad, fyddai ei ddefnydd o hanes arwyr Homer a Virgil, neu rhyw ddygwyddiad yn hanesiaeth Groeg a Rhufain, fel trostan i dderchafu yn uwch i sylw ei wrandawyr glodydd y Gwaredwr. Llawer gwaith y llwyddodd i yspeilio yr Aifftiaid er mwyn cael tlysau at wasanaeth y tabernacl, ac i droi llwyni a chysegroedd yr eilunod megys yn demlau i'r Duw Goruchaf.

Drwy lawer o anhawsderau y cyrhaeddodd ei safle uchel fel "un o feistriaid y gynulleidfa." Bu am amser ar y cyntaf yn ymdrafod a'r pynciol a'r dyrus yn ei bregethau, a chafodd aml i odfa flat yn herwydd hyny. Ond erbyn ei flynyddoedd diweddaf, yr oedd wedi gadael y cynllun hwnw heibio, ac yn gofalu hwylio ei lestr ar ganol sianel gwirioneddau yr Efengyl, a'r awelon nefol, y rhan fynychaf,