i, dywedir yn bendant yn yr Ysgrythyrau sanctaidd fod y greadigaeth yma yn briodoliad o Dduw. Mae ei briodoliaethau naturiol yn cael eu hamlygu yn y greadigaeth, a'i allu, a'i ddoethineb, a'i awdurdod. "Canys ei anweledig bethau Ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu Ef a'i Dduwdod." Yn awr, meddyliwch am foment,—nid yw yn anmhosibl i ni ddychymygu—ein bod yn cael ein gwysio i fod yn llygaddystion o weithredoedd newydd yn y greadigaeth, Duw yn myned i greu byd materol newydd, bydoedd materol newyddion. Golygwch ein bod yn cael ein cymeryd i fyny i ryw seren bellenig. O'n cwmpas nid oes dim ond gwagle mawr. Gallwn ddychymygu y teimladau o ddychryn ac edmygedd fuasai yn ein meddianu o dan y cyfryw amgylchiadau. Dyma ni wedi cymeryd ein safle, ac yr ydym yn barod i fod yn llygaddystion ac yn glust—dystion o'r hyn sydd i gymeryd lle. Dyna y gair "Bydded" yn dadseinio trwy y gwagle mawr, ac yn canlyn ar ol yr adseiniad, dyna fydoedd yn neidio i fôd, cyfandiriaethau yn llamu i fodolaeth, a lleuadau i oleuo y bydoedd yna. Edrychwch o'ch cwmpas, mae y gwagle mawr yn cael ei lanw o fydoedd mawr. Nid peth wedi cael ei drawsffurfio na'i drawsnewid, ond y cwbl yn cael ei wneyd o newydd. Dyna bentwr o fydoedd wedi dyfod allan o'r gwagle; dyna oleuni wedi cael ei daro allan o dywyllwch; dyna enedigaeth wedi dyfod allan o fro diddymdra. Yn awr, yn argraffedig arnynt oll, mae olion doethineb dwyfol a gallu yn ymorfoleddus yn ei waith gorchestol a buddugoliaethus. Ond beth ydym ni wedi ei gael? Creadigaeth faterol, priodolaeth Duw wedi gweithredu ar fater, byd materol newydd. Ydych chi yn teimlo braidd fod yna ormod o wastraff ar fawredd—dim ond gweithiau allanol, gweledig, teimladwy y gellwch chwi eu teimlo â'ch dwylaw, os oedd yr holl bethau yna wedi
Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/148
Gwedd