cael eu gwneyd er mwyn eu hunain yn unig? Yr ydych yn barod i ddweyd fod yna wastraff wedi bod—nid ydych yn gweled fod yr amcan yn ddigon mawr. Ond os tybiwch fod yna greaduriaid wedi cael eu gwneyd o flaen y weithred olaf yr ydym wedi cyfeirio ati, nis gallant fod felly. Ond tybiwch fod y greadigaeth faterol yna wedi cael ei dwyn i fôd gan y Duw mawr er mwyn rhoddi addysg i ddyn, er mwyn dysgu dyn, dyna i chwi amcan uwch. Ond dyma ddyn yn edrych ar y greadigaeth, yn studio gwaith y greadigaeth, yn gweled "ei dragwyddol allu Ef a'i Dduwdod," ac yn gweled nad oes dim ond hollalluowgrwydd ac anfeidrol ddoethineb ac awdurdod digyffelyb allasai ddwyn y pethau yna i fodolaeth, fy nghyfeillion. Nid yw yr olwg yna gan ddyn ar y greadigaeth ond aneglur dros ben. Mae yna feddyliau o Dduw yn y greadigaeth. Ond yr wyf fi yn barod i feddwl am ddyn yn edrych ar amlygiad o Dduw yn y greadigaeth yn debyg i ddyn a'i olwg yn dechreu pallu, yn darllen llyfr ag argraff fân iawn ynddo, ac yn drafferthus iawn i'w ddarllen. Yn awr, dewch gyda mi eto am foment i syllu ar arddangosiad arall hollol wahanol. Nid i edrych ar briodoliaethau naturiol Duw, ond ar ei briodoliaethau moesol yn llywodraeth y byd yma. Y mae ei hollalluowgrwydd yn dyfod i'r golwg, ac y mae ei ddoethineb yn dyfod i'r golwg, ond nid doethineb noeth ynddi ei hun ydyw, ond doethineb Duw yn dyfod i ddatod cylymau dyrus y rhai na fuasai yr un creadur dynol byth yn rhinwedd ei allu ei hunan, byth yn eu datod. Ond heblaw y rhai yna, yr ydym yn canfod dau wirionedd—ffyddlondeb Duw i'w Air a'i Gyfiawnder—a'r ddau yna yn cynwys ei Sancteiddrwydd. Yn awr, yr amlygiad ydym yn gael o ffyddlondeb Duw ydywtystiolaeth ei ewyllys a'i gyfiawnder Ef sydd mewn gweithredoedd o'i uniondeb. Ofer a ffolineb ydyw meddwl fod cyfiawnder a gwirionedd yn wahanol o ran eu natur yn Nuw ragor
Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/149
Gwedd