ydynt yn y dyn. Mae yna wahaniaeth mawr, mae'n wir, ond yr un ydynt o ran eu natur. Fuasem ni ddim yn well o'r syniad yma, os ydyw gwirionedd, a sancteiddrwydd, a ffyddlondeb yn y Duw mawr yn wahanol ragor ydynt yn y dyn.
Dyna ni wedi bod yn edrych ar ddwy arddangosfa, y naill yn dangos priodoliaethau naturiol Duw, a'r llall ei rai moesol. Yr ydym yn canfod pwysau, maintioli, a dysgleirdeb wedi cael eu dwyn allan gan ei briodoliaethau naturiol. Ond y mae y lleill yn dibynu ar feddwl wedi cael eu gweithredu ar feddwl gan y Duw mawr—cyfiawnder, sancteiddrwydd, a gwirionedd. Y maent a fyno â'r meddwl ac nid â mater. Yr ydym yn deall y naill fel y llall, pob un o honom yn medru desgrifio y naill briodolaeth fel y llall, ei rai moesol a'i rai naturiol. Ond y dygwyddiad mwyaf amlwg o briodoliaethau Duw yn y ddwy ydyw marw'r groes. Os ydych am engraifft o allu ar ei oreu, edrychwch i'r groes; a doethineb Duw, edrychwch i'r groes. Mae yn y groes allu Duw a doethineb Duw. Ac nid rhyw ranau o'i ffurf sydd yn dyfod i'r golwg yn y fan yna. Nis gellwch ddychmygu am ddadguddiad gwell, dadguddiad uwch. Dyma gyfiawnder wedi myn'd allan hyd yr eithaf, a sancteiddrwydd Duw yn dysgleirio ar ei oreu. A dyna sydd yn rhyfedd, fe fwriadwyd y groes i fod yn fuddugoliaeth grefyddol—i fod yn ddadguddiad o briodoliaethau moesol Duw. Ac yn yr un fan hefyd yr ydych yn cael y dadguddiad mwyaf o briodoliaethau naturiol Duw yn y prynedigaeth. Yn awr, cymerir tir is yn gyffredin i ddadleu yr angenrheidrwydd am farwolaeth yr Arglwydd Iesu, tir is nag a gymerir yn y testyn. Ac y mae hwn yn dir priodol dros ben, sef wrth ei Iuddewiaeth. Sut y gellwch feddwl am y sefydliadau Iuddewig dan yr hen oruchwyliaeth ond fod Oen Duw i gael ei gymeryd i dynu