ymaith bechodau y byd? Ond fe gymerir tir uwch yn y testyn. Mae y testyn yn myn'd yn ol at gynseiliau cyntefig, yn myn'd yn ol at achosion pethau, yn myn'd yn ol at y pethau hyny ag sydd wedi d'od i'r meddwl dynol gyntaf, a'r hyn sydd yn cael ei ragdybied ydyw y deddfau yn ol pa rai y mae y Duw mawr yn llywodaethu y bydoedd. "Canys gweddus oedd iddo ef, oherwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy trwy ddyoddefiadau." Mae yn ddrychfeddwl gogoneddus cysylltu yr lawn âg egwyddorion llywodraeth Duw, cysylltu Iawn Calfaria â Duw fel gwrthddrych mawr y greadigaeth, fel lluniwr a chynhalydd yr holl fyd. A dyna wneir yn y testyn. "Oherwydd yr hwn y mae pob peth," neu fel y tybia rhai mai fel hyn y dylid ei ddarllen, "i'r hwn y mae pob peth;" mi fuasai yn well fel yna hwyrach. "Trwy yr hwn y mae pob peth" ddywedir fel rheol gyffredin am y Mab. "Wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy drwy ddyoddefiadau." Paham? Oherwydd fod yr Arweinydd yn gorfod dyoddef llawer, ac oherwydd fod plant y cystudd mawr yn cael eu perffeithio. Mae hynyna yn wirionedd, ac a ddysgir yn y geiriau hyn, fel y cawn ni yn ol llaw ddangos. Onid dyma y gwirionedd,—fod cydymdeimlad dwfn rhwng Tywysog yr iachawdwriaeth â'r fyddin sydd dan ei arweiniad. "Gweddus oedd iddo ef berffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth." Mae yr ymresymiad yn rhydd ac yn ofalus. Sylwch fel y mae yr apostol yn siarad yn y testyn, nid fod yn angenrheidiol, fod yn weddus i Dduw—gan iddo greu pob peth, a chan ei fod yn llywodraethu pob peth—i achub. Y mae hynyna yn hollol gyfeiliornus,—nid yw yn wir. Nid oherwydd fod Duw wedi gwneyd pob peth er ei fwyn ei hun y mae yn angenrheidiol iddo berffeithio
Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/151
Gwedd