Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tywysog ein hiachawdwriaeth drwy ddyoddefiadau. Mae y syniad yna yn gyfeiliornus. Beth oedd yn angenrheidiol, ynte? Cosbi, damnio. Damnio oedd yn naturiol. 'Doedd dim yn ffordd damnio ar ol pechu. Rhwystr mawr oedd i godi y tlawd o'r llwch. Beth yw ffurf yr ymresymiad ynte? Y mae yna gynseiliau yn cael eu gwneyd, neu ragdybiau. Mae yma ddau ragdybiad. I. Fod y Duw mawr wedi sefydlu bwriad yn ei feddwl ei hun—wedi bwriadu bwriad cyn bod amser, ac yr oedd yn meddwl y Duw—dod erioed. Beth oedd hwnw? Dwyn meibion lawer i ogoniant. Dyna yr hen feddwl, y meddwl tragwyddol o hedd. Meddwl cyntaf y Duwdod oedd achub, "dwyn meibion lawer i ogoniant." Dyma yr hen drugareddau, "dwyn meibion lawer i ogoniant,"—dyna y bwriad, dyna yr amcan, dyna feddwl cyntaf y Duwdod. Mae hwnyna yn cael ei rag—dybied. Beth yw yr ail? Ei fod wedi apwyntio moddion addas a theilwng o hono ei hun i gyraedd yr amcan. Beth oedd hwnw? Apwyntio yr Ail Berson, ei anwyl Fab, i fod yn Dywysog yr Iachawdwriaeth—i fod yn Arweinydd yr Iachawdwriaeth—yn Dywysog ar y dyrfa fawr na ddichon neb ei rhifo ag sydd yn myned i ogoniant. Dyna y ddau beth sydd yn cael eu rhag—dybied yn y testyn. Caniatewch chwi y ddau beth yna, mae'r apostol yn myn'd yn ei flaen gyda'r ymresymiad. Yr oedd yn angenrheidiol iddo, meddai yr apostol, berffeithio y Tywysog yna trwy ddyoddefiadau. Paham? "Gweddus oedd iddo ef, oherwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth:" dyma yr egwyddorion drwy ba rai yr oedd yn llywodraethu y byd. Pa fodd i gosbi pechod? Nid oedd modd i ddyn gael ei achub heb i bechod gael ei gosbi. Yr oedd egwyddorion llywodraeth y Duw mawr yn gofyn am hyny. Pe buasai Duw yn cosbi pechod yn y pechadur, ni fuasai yr un pechadur yn cael ei achub,—mi fuasai yn dyoddef byth. Ond