Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn gyntaf: Bwriad Duw wedi cael ei sefydlu i "ddwyn meibion lawer i ogoniant."

Meibion,—y mae Mabwysiad yn un o'r athrawiaethau mwyaf cynwysfawr yn yr efengyl, oblegyd ei bod yn cymeryd i mewn Gyfiawnhad ac Adenedigaeth, ac y mae yn cael ei gosod allan fel yn cynwys holl fendithion yr efengyl, a'r oll yr ydym mewn angen o honynt. Os ydych yn "feibion" yma heddyw, yr ydych yn ngafael pob bendith. Derbyniad y Mabwysiad yn ein gwneyd yn feibion,—dyna yr amcan mawr. Mae darpariaeth wedi ei gwneyd yn yr efengyl i faddeu holl bechodau y rhai hyn, a'u sancteiddio. Nid rhyw enw yw mabwysiad, nid enw ydyw, nid enw ydyw bod yn feibion; ond gyda y teitl mae yna deimladaeth briodol i'r sefyllfa yn cael ei gynyrchu drwy weinidogaeth daer yn mynwesau y rhai hyny ag sydd ganddynt hawl i fod yn feibion i Dduw. Maent yn feibion nid mewn enw,—maent yn wir feibion. Mae yr elyniaeth wedi ei ladd. Nid yw y galon yn elynol i Dduw yn bresenol. Nid gelynion mwyach, ond meibion, a meibion i Dduw. Mae gan y rhai hyn gydymdeimlad â phob symudiad sanctaidd yn holl lywodraeth Duw. Maent yr un feddwl â Duw yn mhob peth. Maent yn blant sanctaidd. Maent yn cydymffurfio a meddwl mwyaf y Duw mawr, yn byw fel y mae Duw eisiau iddynt wneyd. Y rhai yna sydd yn cael son am danynt yn y testyn. Beth am danynt? Maent yn cael eu dwyn i ogoniant. Pa ogoniant? Y gogoniant i'r hwn y derbyniwyd Crist. Mi ellwch fod yn foddlon ar hwn, oni ellwch? Fe'i derbyniwyd i dragwyddol ogoniant. Os wyt tithau yn fab, mi gei fyn'd i'r lle y mae Crist ynddo,—i dragwyddol ogoniant. Mae yna le, ac y mae y geiriau yma yn cyfeirio at y gogoniant yna fel lle. Gogoniant pavilion yr hanfod ddwyfol; mi gei ddigon yn yr un lle a Christ, yn