Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr un babell ag yntau. "Meibion lawer i ogoniant." Maent wedi cael eu hapwyntio i ogoniant., maent wedi cael eu trefnu i ogoniant, ac wedi eu byddino i ogoniant. Dyna fydd dy ddiwedd di,—gogoniant. Yr wyt yn cael dy barotoi i'r fan yna. Mae yr Arglwydd Iesu wedi ymgymeryd a'r gwaith o dy gonductio di i'r gogoniant yna. “Meibion lawer i ogoniant," meibion lawer. Nid tyrfa fach, fy mhobl i, fydd ar gael, ond tyrfa fawr na ddichon neb ei rhifo. Mae yna dyrfa wedi dechreu myned i ogoniant er y cychwyn, er dechreuad y byd. Yr wyf yn meddwl mai Abel oedd y cyntaf aeth i mewn yno. Ond y mae yna filiynau wedi myned ar ol hyny—mae y dyrfa yn chwyddo o oes i oes, o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae yna dyrfa hardd, tyrfa fawr yn cael eu dwyn i ogoniant. Mae y dyrfa wedi bod ar y ffordd yn mhob oes, ac yn mhob cenedlaeth. Nid yw y byd yn aml iawn yn eu hadnabod. Gwaradwydd mewn llawer oes ydyw ei rhan, ac erledigaeth sydd yn agoriad i'r nefoedd i aml un. Mae yn bresenol lawer wedi myned i'r nefoedd, llawer wedi myned i mewn, ac y mae rhai y foment hon yn yr act o fyned i mewn trwy y pyrth, ac i'r heolydd euraidd. Maent yn ymdyru ar fryniau goleuni, ac i'r heolydd euraidd. Ond y rhan fwyaf sydd ar ol ar y ddaear, gan gynwys, cofiwch, y cenhedlaethau ag sydd eto heb eu geni, y rhai a fyddant sanctaidd, ac a folianant yr Arglwydd. Ac felly, chwi welwch, fod dyddordeb arswydus yn y plant bach yn yr oes sydd yn codi, oblegid o'r rhai hyn y mae Tywysog yr Iachawdwriaeth yn myned i wneyd i fyny ei gyflenwad. Mae y dyrfa sydd yn myned i ogoniant i gynyddu o oes i oes. Mae yn fawr yn bresenol, mi fydd yn fwy yn yr oes nesaf, ac yn y man mi fydd yn llenwi yr holl ddaear yma. Mae y byd a'i gyflawnder i fod yn eiddo'r Arglwydd. Mae y dyrfa yn cynyddu o oes i oes, ac o genhedlaeth i genhedlaeth. Sut y mae y Duw mawr