Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn myned yn mlaen? Llyncu pobl o'r genhedlaeth yma, ac o'r genhedlaeth arall, nes yn y diwedd y bydd "holl deyrnasoedd y byd wedi myned i'n Harglwydd ni a'i Grist ef." Mae y dyrfa yn cynyddu o hyd. Edrychwch arni, edrychwch o'ch blaen, nis gellwch weled y pen blaen: edrychwch yn ol, nis gellwch weled y dyrfa y ffordd yna chwaith. Yr Arglwydd yw eu Harweinydd. Welwch chi y Cadben mawr ar y blaen yn commandio, mor fawreddog ydyw y procession, torf ar ol torf, pob un yn cadw ei olwg ar y Pen Tywysog. Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy sydd yn eu tywys. Pob peth da sydd wedi bod, ac yn bod, yn y byd yma, beth yw? Dim ond ymlithriad y fyddin yn mlaen drwy y ddaear, o'r "meibion lawer" ar eu ffordd "i ogoniant." Pob peth mawreddog a nerthol a defnyddiol sydd wedi bod yn y byd yma erioed, beth yw? "Meibion lawer, meibion lawer, yn myned i ogoniant." 'Does dim cyfrif arnynt, fy mhobl i, maent i gyd wedi eu selio, maent yn sicr o gael gogoniant. Maent wedi cael addewid o'r gogoniant. Ydi hi yn cynwys pawb? Ydi hi yn cynwys pob gwrandawr yr efengyl? Na, dim pawb. Paham? Nid yw Duw wedi bwriadu gogoneddu pawb, nid yw wedi bwriadu myned a phawb i'r nefoedd: ond, er hyny, cofiwch, nid oes dim diffyg yn yr Iawn. Mae yna ddarpariaeth gyflawn yn yr efengyl. Mae y rhwystrau oedd i bawb fyned i'r nefoedd wedi eu symud yn yr Iawn, pan waeddodd Crist ar y groes y gair "Gorphenwyd." Pa le ynte y mae y rhwystrau? Yn dy galon ddrwg di y mae y rhwystr, ac yn y fan yna yn unig. Nid o du yr Iawn. Na, y mae darpariaeth yr efengyl yn ddigon ar gyfer yr holl fyd. O ran ei ddigonolrwydd mae yr Iawn yn ddiderfyn: ac yn y cynygiadau o hono, mae yn ddiderfyn. Mae yr Iawn o ran ei addasrwydd yn ddiderfyn, ac yn y digonolrwydd o hono mae'n ddiderfyn. Ac yr ydw i yn leicio y darn hwnw o eiddo un hen fardd adnabyddus,—