Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"I'e buasai yn yr arfaeth i fyn'd i uffern dân,
Golchasai'r holl gythreuliaid i gyd yn berffaith lân."

Nid yw Duw wedi meddwl myned a phawb i ogoniant. Mae yna feibion lawer yn cael eu dwyn i ogoniant.

Yn ail: Beth yw y moddion trwy ba rai y mae'r amcan yna i gael ei gyraedd? Amcan uchel, anhawdd ei gyraedd ydyw. Ac os yw yr amcan yna i gael ei gyraedd, fe gostia i Dduw yn ddrud. Beth fydd y moddion? Apwyntio yr Ail Berson, ei Fab ei Hun, i ymgymeryd a chonductio y meibion lawer yma i ogoniant. Rebels oedd y meibion; rhai wedi gwrthryfela yn erbyn llywodraeth Duw. Y peth cyntaf oedd eu gwneyd yn feibion, ac y mae Efe wedi ymgymeryd â'r gwaith. Yr ydych yn rhwym o deimlo y bydd y cwbl yn sicr o gael eu cyflawni pan y byddoch yn cofio pwy sydd wedi cymeryd y gwaith yn ei law—"Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy. Mae pawb yn sicr o gael eu dwyn i ogoniant. Yn awr, enw sydd yn cael ei ddefnyddio yn y rhanau diweddaf o'r Ysgrythyr ydyw Tywysog, Tywysog ac Iachawdwr, Tywysog y Bywyd, Awdwr ffydd, Tywysog yr Iachawdwriaeth, Tywysog ein Hiachawdwriaeth. Yr un gair sydd yn cael ei ddefnyddio yn yr adnod ydym wedi ddifynu yn bresenol. Yr ydym yn gweled fod y gyffelybiaeth wedi ei chymeryd oddiwrth bethau milwrol—yr ydych yn nghanol y filwriaeth, yn nghanol y rhyfel. Yn y testyn, Tywysog yr Iachawdwriaeth. Fe'i gwnaeth yn flaenor i'w bobl, yn flaenor ac yn athraw i'w bobl,—"Leader and commander," yn ol y Saesneg. Yn cyfeirio drachefn at y filwriaeth, meddai un o'r prophwydi bychain, "Wele dy frenin yn dyfod atat; Cyfiawn ac Achubydd yw Efe : y mae Efe yn llariaidd, ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol llwdn asyn." Yr ydym yn nghanol swn rhyfel, —"Tywysog eu Hiachawdwriaeth hwy." Mae yn deitl