Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gogoneddus, ac yn cyfeirio at waith cyfryngol yr Arglwydd Iesu yn ei holl ranau, fel y mae wedi ymgymeryd â "dwyn meibion lawer i ogoniant," a'u dwyn yn ddiogel—i ofalu am eu cynydd yn y byd yma, a'u terfyniad buddugoliaethus yn y gogoniant. Tra y mae y cyfeiriad yn gyffredinol fel yna, mae yn rhaid i ni gael dweyd fod yma ryw gyfeiriad unigol, sef at waith Joshua yn arwain y genedl o'r Aipht i Ganaan. Mi ymddangosodd angel a chleddyf yn ei law i Joshua. Yr oedd yn olwg ogoneddus i edrych arno, a'r lle y darfu iddo ymddangos, yr oedd yn lle gogoneddus. Yr oedd Joshua yn barod i dynu ei esgidiau, oblegid disgynodd Duw yno. Dyna nod tir sanctaidd yn yr Hen Destament, fod Duw wedi disgyn yno. Ac y mae yr un fath eto. Lle bynag yr ydych yn cael cymundeb â Duw, waeth dae chi ar y 'stryt, mae yn fan sanctaidd. Pwy oedd yr ymwelydd hwn ymddangosodd i Joshua? Tywysog llu yr Arglwydd. Yr un un sydd yn cael son am dano yn y testyn. Mae wedi rhagflaenu cyflawnder yr amser. Nid yn Bethlehem y daeth i'r byd yma gyntaf,—yr oedd yma er y dechreuad. Yr oedd wedi ymddangos i Joshua yn Dywysog llu yr Arglwydd. Yr oedd yr olwg yn fawreddog arno. Yr oedd yn barod i'r rhyfel yr adeg hono. Yr oedd yn goch ei ddillad dan oruchwyliaeth yr Hen Destament. Fe ganfyddodd lawer o'r hen frodyr hyny ar ei wisg yr amser hwnw. Nid yn unig yr oedd yn un goch, ond yr oedd yn un hardd hefyd. Dyma fo yn eu harwain nhw trwy yr anialwch i feddiant o'r Ganaan yma. Y mae tebygolrwydd rhwng y ddau Joshua. Nid digwyddiad yw fod yr un enw ar y ddau, yr un o ran ystyr. Nid digwyddiad yw hynyna. Yr oedd y naill a'r llall yn llawn o ysbryd. Fe ddarfu Joshua o dan yr hen oruchwyliaeth ddwyn y genedl i feddiant o Ganaan. Fe'u harweiniodd trwy ddyfroedd mawr, ac fe'u dygodd i'r Ganaan dymhorol, wedi croesi yr hen