Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. 𝔈𝔡𝔴𝔞𝔯𝔡 𝔐𝔞𝔱𝔱𝔥𝔢𝔴𝔰, 𝔈𝔴𝔢𝔫𝔦.

FEL PREGETHWR.
Gan y Parch. J. Wyndham Lewis, Caerfyrddin.

GANWYD y gwr mawr ac athrylithgar hwn yn Sant Athan, Bro Morganwg, Mai 13eg, 1813; a bu farw am chwarter i wyth o'r gloch boreu Sadwrn, Tachwedd 26ain, 1892, yn ei breswylfod ei hun, sef, Bryneglwys—ty ardderchog a adeiladwyd ganddo dair blynedd cyn ei farwolaeth, ar lan afon Ogwy, yn nghwr deheuol tref hynafol Pen-y-bont-ar-Ogwy, yn Sir Forganwg. Saif lle genedigol y bardd-bregethwr a'r dramatist enwog ar lan Sianel Bristol, tonau yr hon sydd wedi bod yn golchi ei draed er ys oesau, dwywaith o leiaf, yn y dydd.

Yr oedd tad ein gwrthrych—Thomas Alexander Matthews, wedi hanu o un o deuluoedd hynaf a pharchusaf Bro Morganwg. Y mae llawer o'i hynafiaid yn gorwedd yn Ngangell Eglwys Gadeiriol Llandaff. Perthynas iddo hefyd oedd y Tad Matthews, y dirwestwr enwog wnaeth gymaint o les yn y cyfeiriad hwn yn yr Ynys Werdd. Yr oedd ei fam hefyd—Miss Ann Morgan, yn ferch un o deuluoedd mwyaf cyfrifol y Fro. Bu farw y fam pan oedd Edward, yr ieuangaf o chwech o blant, yn dair mlwydd oed; ond yr oedd yn ei chofio, er hyny, yn dda; a chawsom y pleser o'i glywed, fwy nag unwaith, yn desgrifio pa fath un ydoedd y foneddiges a gafodd y fraint o fod yn fam iddo. Wedi i'w dad wario yr etifeddiaeth ar redegfeydd ceffylau, ac ofer-gampau dwyrain Morganwg, aeth efe a phedwar o'r plant, tri mab ac un ferch, i'r America; ond aeth