Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y prydnawn. Yn ymyl y sedd fawr, eisteddai un o feddygon adnabyddus y lle, a'i gynorthwywr, a Mr. Ishmael Williams, o'r Ddinas, a Mr. R. Smith Lewis, Ton—y—pandy. Yn y sedd fawr, ar gyfer y pregethwr, eisteddai y Barnwr Gwilym Williams o Fiskin; y Mri. D. Evans, Bodringallt; J. James, y Manager; Dafydd Terry, o'r Ddinas; a W. Abraham (Mabon,) A.S.

Testyn Dr. Saunders oedd Luc iv. 18, 19;—"Blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd." Ni chlywsom y Dr. braidd erioed yn fwy hyawdl. Testyn Mr. Matthews ydoedd Salm xxv. 16;—" Tro ataf, a thugarha wrthyf: canys unig a thlawd ydwyf." Bu yn aros llawer gyda'r geiriau 'unig a thlawd.' "Fu neb sydd yma," meddai, yn wirioneddol unig eto. Pan ddaethom i'r byd, yr oedd rhywun yn yr ystafell i'n derbyn, ac i'n hymgeleddu. Ond am uffern, lle ydyw ag y bydd pob un yn unig ynddo—yn dragwyddol unig! Nid ydynt yn caru eu gilydd yno, nac yn cydymdeimlo â'u gilydd. Tywyllwch fel y fagddu—nos dragwyddol fydd hi yn uffern! Wêl y pechadur neb yn oes oesoedd yno; ac ni chlyw ddim yn dyfod trwy y duwch ond cableddau, rhegfeydd, a rhincian danedd i dragwyddoldeb!" Yn y fan hon, fe wnaeth y pregethwr rincian ei ddanedd deirgwaith, fel y gellid ei glywed allan o'r heol. Ymdaenodd cwmwl, hefyd, ar y pryd dros yr holl Gwm, a daeth yn ystorm o fellt a tharanau dychrynllyd. Chwanegodd hyn yn ddirfawr at effaith desgrifiad ofnadwy y pregethwr o drueni yr unig,' yr annuwiol, yn y byd a ddaw. Yr oedd pawb yn y lle yn ofni ac yn crynu; ac yr oedd yr olwg ar y pregethwr yn un arswydlawn o ddifrifol. Yr oedd y meddyg yn glasu, ac yn troi yn ol a blaen ar ei sedd; y Barnwr Williams yn foddfa o ddagrau; Terry, o'r Ddinas, yn taraw ei ffon fawr ar lawr y sedd fawr, ac yn gwaeddi, "Wel, wel, beth wnawn ni, Mr. Matthews anwyl? " Y nefoedd fawr,' ebe yntau, mewn bloedd oedd yn cario y cwbl o'i blaen — " y nefoedd fawr! 'Does dim rhaid i neb sydd yma, o drugaredd, fyned yno, oddi eithr ei fod yn mynu myn'd—yn mynu bod yn golledig! Fe fu Iesu Grist ' yn unig' er mwyn rhoddi ei gwmni i bechadur yn y glyn. 'O'r bobl nid oedd neb' gyda'n Harglwydd ni! Gorchfygodd y gelyn ei ei hunan; cuddiod edifeirwch o'i olwg; diddymodd angau—llyngcodd ef mewn buddugoliaeth; a chyfododd yn fuddugoliaethus foreu y trydydd dydd! Pan fydd y credadyn farw, fe fydd Iesu Grist yn yr ystafell. Bydd gydag ef yn yr afon, hefyd, i ddal ei ben uwch