Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

presenol yn myned heibio, fel pethau rhy wan a thywyll i fod yn gyfryngau gwybodaeth yn y sefyllfa o berffeithrwydd ysbrydol. Nid oes ond gwneuthur goreu y gellir o iaith ddaearol, ffurfiau a lluniau daearol; cymhariaethau daearol, ïe, pobpeth daearol, i gario a chyflwyno i'r meddwl ryw syniad gwan o'r perffeithrwydd ysbrydol hwnw y bydd agoriad y byd a ddaw yn unig yn ei egluro. Ein sefyllfa ddaearol, ein pellder oddiwrth ysbrydolrwydd a pherffeithrwydd, sydd yn gosod prophwydoliaeth yn angenrheidrwydd o gwbl, a defodau o bob natur. Iaith dywyll yw iaith prophwydoliaeth, defodau cnawdol yw arferion crefydd, a gwybodaeth sydd yn gymysglyd a niwlog; ar yr un pryd, yn ateb ein sefyllfa bresenol, ac yn egwyddorion cyntaf ein haddysg a'n cymhwysder i ddadguddiad helaethach. "Eithr pa un bynag ai prophwydoliaethau, hwy a ballant; ai gwybodaeth, hi a ddiflana. Canys o ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn prophwydo. Eithr pan ddelo yr hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddilëir." Ni bydd eisiau cynorthwyon y sefyllfa ddaearol yn y sefyllfa nefol. Yr oeddent yn burion i ddyfod hyd lan yr afon, eithr gadewir hwynt yno i'r nesaf. Gwendid corff sydd yn gosod angenrheidrwydd am ffon; eithr os derfydd yr hyn oedd yn cyfansoddi yr angenrheidrwydd, yna teflir y ffon ymaith. Ni bydd eisiau ffurfiau dynol yn y nefoedd, pan y mae cyfryngau uwch ac agosach at Dduw, trwy y rhai y delir cymundeb ag ef. "Teml ni welais ynddi, canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog a'r Oen yw ei theml hi." Bydd yr angenrheidrwydd am gapel, Ysgol Sul, pregethau, bara a gwin, a llawer o bethau eraill, wedi darfod pan y gwelir ef "wyneb yn wyneb," beth bynag ydyw hyny. Bydd yr hen Gristion, pan y delo wyneb Duw i'r golwg yn yr afon, yn taflu yr hen ffyn y naill ochr, i'r nesaf. "Yn awr yr adwaen o ran; ond yna yr adnabyddaf megys y'm hadwaenir," medd y testyn,