Tywyll ac aneglur iawn yw ein syniadau uchaf am y byd a ddaw, a'n sefyllfa ysbrydol ni yno; wedi ein dadrys o'r sefyllfa gorfforol, yn byw drwy gyfryngau, anadnabyddus i ni yn awr, o ran ein bodolaeth a'n mwynhad ysbrydol. "Nid amlygwyd i ni eto beth a fyddwn; eithr ni a wyddom, pan ymddangoso efe, y byddwn gyffelyb iddo, canys ni a gawn ei weled ef megys ag y mae." Ië, "o ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn prophwydo. Eithr pan ddelo yr hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddileir."
Gwelir hefyd fod yr hyn sydd o ran yn ddefnyddiol mewn sefyllfa anmherffaith, canys moddion i gyrhaedd perffeithrwydd ydyw. Yr ydych drwy yr anmherffaith yn dyfod i afael y perffaith-drwy y daearol yn dyfod i fwynhad o'r ysbrydol; o fod yn fechgyn i fod yn wyr. Yn awr, eglur yw nad ydyw pob sefyllfa ddaearol ond sefyllfa blentynaidd ; fel bachgen yn mhob peth; heb fyned yn wr mewn gras nes myned i'r nefoedd, "pan ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd a gwybodaeth Mab Duw, yn wr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist." Bellach, bydded i'r mabanod gael eu porthi a "didwyll laeth y gair, fel y cynyddont drwyddo ef," a thrwy hyny ddyfod yn wyr, i fwyta bwyd cryf. "Canys bwyd cryf sydd yn perthyn i'r rhai perffaith." Yr ydym o dan anogaeth i fyned rhagom at berffeithrwydd, gan ddefnyddio yr anmherffaith yn foddion i cyrhaedd y dyben hwnw. Pethau i ddiflanu, medd yr Apostol, yw pob peth yn fuan; eto awgryma y posiblrwydd o gyrhaedd y pethau nad ydynt yn diflanu drwyddynt, ië, derbyn "anniflanedig goron y bywyd."
Y peth tebycaf i berffeithrwydd o bob peth a enwir, yw cariad. Y mae cariad yn elfen mor ddwyfol, mor debyg i Dduw ei hun, fel y mae yn parhau heb ddiflanu. Y mae yn debyg nad ydyw yn cyfnewid gymaint yn ei ffurf a'r grasau eraill, fel y dywedir, "Cariad byth ni chwymp ymaith," Y peth, gan hyny, tebycaf