i'r nefoedd, ag sydd yn myned i'r nefoedd o dan lai o gyfnewidiadau na dim arall, a ddylai gael ei harfer fwyaf ar y ddaear. Dyna'r sicrwydd mwyaf am y nefoedd, yw arferiad o'r pethau mwyaf nefol yn y sefyllfa ddaearol. "Yr hwn nid yw yn caru, nid adnabu Dduw; oblegid Duw, cariad yw. Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei uniganedig Fab i'r byd, fel y byddem fyw trwyddo ef. Ac y mae pob un sydd ganddo y gobaith hwn yn ei buro ei hun, megys y mae yntau yn bur." Cariad sydd yn ffurfio y gobaith hwn gryfaf o bob peth. Gwelir fod yr Apostol yn gosod cariad yn sail dysgwyliad am y nefoedd. Nid ydyw dyn yn hinsawdd y nefoedd o gwbl, os nad yw yn byw mewn cariad. "Nia wyddom ddarfod ein symud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bod yn caru'r brodyr. Yr hwn nad yw yn caru ei frawd, y mae yn aros yn marwolaeth. Pob un ag sydd yn casau ei frawd, lleiddiad dyn yw; a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragywyddol yn aros ynddo." Y peth tebycaf i'r nefoedd ar y ddaear yw cariad, a'r peth tebycaf hefyd o fyned o'r ddaear i'r nefoedd.
Yn ddiau, canfyddir yn rhesymeg yr Apostol anogaeth gref i arfer y pethau ar y ddaear sydd yn cyfeirio at berffeithrwydd y nefoedd, "Ceisiwch y doniau goreu. Ewch rhagoch at berffeithrwydd." Bydd llawer o bethau mewn crefydd, ag sydd wedi bod yn wasanaethgar yma, yn bur ddiwerth mewn sefyllfa berffeithiach, ag sydd yn ein harwain i feddwl na ddylid sicrhau gormod ar bethau ag y bydd, fe allai, gwybodaeth fwy perffaith yn dangos eu ffolineb. Nid ydyw anffaeledigrwydd yn preswylio mewn creadur, yn enwedig mewn byd tywyll fel hyn. Y mae rhan helaeth o'r fuchedd hon yn gynwysedig mewn edifarhau am gyfeiliornadau, a dymuno y buasai yn bosibl eu galw yn ol. Eglurhad rhagorol o hyn ydyw y testyn: "Pan oeddwn