hir mewn gras; ewch yn y blaen o sefyllfa y bachgen i sefyllfa y gwr. "Am hyny, gan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechreu rhai yn Nghrist, awn rhagom at berffeithrwydd, heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddiwrth weithredoedd meirwon, ac i ffydd tuag at Dduw, i athrawiaeth bedyddiadau, ac arddodiad dwylaw, ac adgyfodiad y meirw, a'r farn dragywyddol. A hyn a wnawn, os caniata Duw." Ewch rhagoch at fwy o berffeithrwydd mewn gras a gwybodaeth ysbrydol. Cerddwch yn y blaen, o fod yn fechgyn i fod yn ddynion bellach. Yr oedd yr Apostol yn gweled ac yn gofidio nad oedd yn bosibl iddo weinyddu iddynt y wybodaeth angenrheidiol i'w sefyllfa bresenol, oblegid eu bod yn aros yn blant o hyd. "Am yr hyn y mae i ni lawer i'w ddywedyd, ac yn anhawdd eu traethu, o achos eich bod chwi yn hwyrdrwm eich clustiau. Canys lle dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn eisieu dysgu i chwi beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw; ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth, ac nid bwyd cryf." Ewch rhagoch at berffeithrwydd fel y gallwyf roddi bwyd gwyr i chwi, ac nid plant, fel y galloch "roi heibio bethau bachgenaidd."
Bachgen yn deall ac yn meddwl. "Fel bachgen y deallwn, fel bachgen y meddyliwn; hyny yw, pan oeddwn fachgen, fel bachgen yr oeddwn yn mhobpeth. Wrth gwrs, fel bachgen y dysgwylid iddo fod pan yn fachgen; ond y pwnc yw, y mae yn myned yn wr yn y cwestiwn, a rhoi heibio bethau bachgenaidd. Rhaid myned at berffeithrwydd, ac y mae hyny yn rhywle yn oes dyn ar y ddaear. "Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y meddyliwn." Yr ydych yn cofio yr amser pan yr oeddych yn meddwl fod dimai yn fwy na thyddyn —fod melusder teisen yn fwy ac yn well na bwyd cryf —fod y top a'r marble yn rhagorach na phleserau penaf