Prawfddarllenwyd y dudalen hon
dragwyddoldeb. Mae aml un, yn ei adeg yn y byd, yn hau had drwg a fydd yn gynhauaf o felldithion tragwyddol. Bydd yr adeg fachgenaidd o fodolaeth dyn, ei fywyd yn y byd hwn, yn sicr o wneuthur tragwyddoldeb da neu ddrwg. Mae y bachgen i effeithio byth ar y gwr er cysur neu anghysur. "Gwnaethost i mi feddianu pechodau fy ieuenctyd." Ië, y peth a heuo'r bachgen a fêd y gwr, mewn amser a thragwyddoldeb. Am hyny, "da yw i wr ddwyn yr iau yn ei ieuenctyd."