𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. 𝔍𝔬𝔥𝔫 𝔓𝔞𝔯𝔯𝔶, 𝔇. 𝔇
Fel Pregethwr
Gan y Parch. W. R. Jones (Goleufryn), Caergybi.
Y MAE y pregethwyr sydd yn llenwi pwlpud y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, yn enwedig yn Ngogledd Cymru, o'r canol oed i fyny, dan fwy o ddyled i ddau ddyn neillduol nag y maent erioed wedi ei ystyried, a mwy, pe yr ystyrient, nag y gallant fyth ei draethu. Y ddau ddyn hyny ydynt y Doctoriaid Lewis Edwards a John Parry y Bala. A gallwn ddweyd yn mhellach fod meddwl Cymru, oherwydd cysylltiad y ddau ag addysg a llenyddiaeth ein gwlad, o dan ddyled ddirfawr iddynt. Dau arweinydd meddyliau oeddynt mewn modd arbenig, a thra y bydd y meddyliau hyny a arweiniwyd ganddynt mewn bod, bydd eu dylanwad arnynt mewn mil a mwy o wahanol ffurfiau, a thrwyddynt hwy cerir eu dylanwad i lawr i oesau dilynol. Ac y mae yn ddylanwad diarwybod gan mwyaf. Gwyddom, ein bod yn ddyledus iddynt, ond ni wyddom pa mor ddyledus ydym y mae yn ddylanwad fel yr awyr a anedlir genym, neu fel yr elfen dân sydd yn llechu yn guddiedig mewn sylweddau o'n deutu, nis gwyddom ei fod nes y daw rhyw amgylchiadau i'n cyfarfod i'w dynu i'r golwg. Y mae hyn yn neillduol wir am Dr. Parry; gwnaeth ei oreu i fod o'r golwg. Adroddid i ni, yn ddiweddar, mai un o'i bryderon penaf, yn nglyn ag un o anturiaethau llenyddol mwyaf Cymru, ydoedd ceisio cuddio ei hunan, a mynasai, pe y llwyddasai, i gadw ei enw ei hunan allan yn gyfangwbl o unrhyw