gysylltiad a'r anturiaeth fawr hono sydd, erbyn hyn, wedi troi allan i fod y fath fendith i genedl y Cymry! Bu yr amddifadrwydd hwn ynddo o unrhyw uchelgais am ddyfod i olwg y cyhoedd, tra yn addurn i'w gymeriad prydferth ef, ar yr un pryd yn golled i'w genedl yn ddiameu, gan na symbylid ef i gyhoeddi dim ond a fyddai raid, yn ystod ei fywyd. Felly cawsom rhy ychydig o'i bregethau, ac y mae pob ymdrech a wneir wedi ei farw, ïe, yn mhen cryn amser ar ol ei farw, hefyd, i gyhoeddi rhai o honynt yn werthfawr iawn fel cam tuag at gadw rhag difancoll y llwch aur allan o weithdy un o'r gweithwyr mwyaf difefl a medrus a welodd Cymru erioed.
Yr oedd Dr. Parry mor fawr a chyflawn mewn llawer cyfeiriad fel nad ydyw yn cael a haeddai mewn rhai cyfeiriadau. Yr ydoedd yn Athraw Coleg mor ragorol, yn Arholydd Ysgolion Sabbothol diail, yn arweinydd ymddiddan yn y Cyfarfod Eglwysig heb ei fath, fel na chafodd y credit o fod yn bregethwr mor fawr ag ydoedd. Pe buasai yn llai mewn rhai o'r pethau hyn cawsai fod yn fwy yn y pwlpud. Ond prawf y gyfrol o bregethau a gyhoeddwyd ar ol ei farw ei fod yn bregethwr mawr mewn gwirionedd. Cyfyngodd ei hunan hefyd i gylch rhy neillduedig; mynai er pob ymdrech gyfyngu ei hunan i gylch capeli bychain mynyddoedd a chymoedd Sir Feirionydd. Yr hyn a fu yn enill i'r lleoedd hyny fu yn golled fawr i wlad gyfan. Llawen iawn oedd genym ddeall, fod pregeth o'i eiddo i gael ei chyhoeddi hoffem yn fawr ddeall fod ychwaneg ar gael, ac i gael eu cyhoeddi. Y mae y gyfrol a gyhoeddwyd tua deng mlynedd yn ol yn drysor o'r gwerth mwyaf. Oni bae am gyhoeddiad hono ni buasai ond cylch cydmariaethol fychan yn gwybod nemawr ddim am dano fel pregethwr. Erbyn hyn, gan fod cylch ei weinidogaeth gyhoeddus mor gyfyng, ac amser yn treiglo heibio mor gyflym, ychydig ydyw nifer y rhai a gawsant y fraint o'i glywed. A oes gobaith cael cyfrol eto? Pe buasai Dr. Parry yn Ysgotiad buasai rhywrai wedi casglu yn ddichlyn bob briwsionyn o'i ymddyddanion yn ei ddosbarth yn yr Athrofa, ei hanes yn y cwrdd Eglwysig, a'i weddillion llenyddol. Meddylier fel y mae pobpeth am Dr. John Duncan, Stewart, Cromarty, a Dr. W. B. Robertson, Irvine, wedi eu casglu yn nghyd, fel na chollid dim. I'n tyb ni, yr oedd tebygolrwydd neillduol rhwng Dr. Parry, i'r ddau ddiweddaf a enwyd. Yr un lledneisrwydd a gwylder, yr un cyffyrddiad o athrylith i wneyd pob peth yn fyw, yr un eneiniad nawsaidd ar eu meddyliau, ac os oedd