Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr Ysgotiaid ar y blaen mewn dychymyg a ffansi a nerth desgrifiadol, yr oedd y Cymro yn rhagori mewn mater a nerth meddyliol i dreiddio i wirioneddau yr Efengyl.

[ocr errors] Prif nodweddion gweinidogaeth Dr. Parry ydoedd amrywiaeth a chyflawnder. Edrycher ar ei bregethau cyhoeddedig, y mae ynddynt amrywiaeth dulliau o gyfansoddi a chyflawnder o bob rhagoriaethau. Weithiau ceir ef yn deffinio carictor, fel yn y bregeth ar Gwymp ac Adferiad Pedr." Bryd arall, y mae'n olrhain athrawiaeth fawr fel yn ei bregeth ar "Ddarostyngiad a Dyrchafiad Crist." Glyn fwy wrth y dull testynol na'r un arall ; cyfyd ei bregethau y rhan amlaf o'r testyn, ond er fod tueddfryd naturiol ei feddwl i hyny, eto ni chyfynga ei hun yn hollol i'r dull hwnw. Er casglu ei bregethau argraffedig ynghyd o dan gryn anfantais, dangosant feddylgarwch neillduol. Yn mysg yr amryw gyfrolau o bregethau o eiddo gweinidogion ymadawedıg y Methodistiaid Calfinaidd, a gyhoeddwyd yn y blynyddoedd a aethant heibio yn Nghymru, yr ydym yn ei ddweyd gyda phob pwyll, fod yn amheus genym a ddengys yr un o honynt gyfuniad gwell o ansoddau uwchaf pregethu, na rhai o'r pregethau a geir yn y gyfrol hon. Cyfunir ynddynt ragoriaethau a geir yn gyffredin ar wahan. Nid oes ynddynt y gwrthgyferbyniadau sydyn, gwreiddiol, a geir yn mhregethau cyntaf Charles Caerfyrddin, ond dangosir ynddynt yn well, olyniad gwirioneddau a'u perthynas â'u gilydd. Nid ydynt, feallai, mor drymion o fater a phregethau Henry Rees, ond y maent yn llawn ohono, ac yn llawer mwy darllenadwy. Nid oes ynddynt y talpiau aruthrol o feddyliau a'r rhyferthwy o farddoniaeth a geir mewn rhanau o bregethau John Jones, Talysarn, ond ceir ynddynt fwy o undod a chyfartalrwydd meddwl. Ni cheir ynddynt y dysgleirdeb a'r nwyfiant a geir yn mhregethau Edward Morgan, ond y maent lawn mor sylweddol. Ni cheir ynddynt yr hyawdledd rhwysgfawr a geir yn mhregethau Dr. Saunders, eithr, wedi eu darllen, gadawant chwi gyda llawn cymaint o wir werth yn eich meddiant yn y ffurf o argraffiadau arhosol. Yr oedd Dr. Parry yn feddyliwr clir iawn; nid oedd ynddo nemawr ddim o'r gyfriniaeth ddofn sydd wedi gosod cymaint o swyn ar feddyliau rhai o bregethwyr Cymru. Er hyny, y mae ei bregethau y rhai mwyaf darllenadwy, ac yn dryfrith gan ddywediadau tarawiadol a chofiadwy. Gallech yn hawdd ddyfynu o bob tudalen o'i bregethau ddywediadau sydd yn glynu yn y cof, oherwydd eu pert-