rwydd a'u tlysni. Dywed am Grist: "Pan ar y ddaear buddugoliaeth ffydd oedd credu ei fod yn Dduw ; yn awr, pan y mae yn y nefoedd, buddugoliaeth ffydd ydyw credu ei fod yn frawd ini." Am bechod dywed: "Yr oedd dybenu pechod trwy allu noeth yn anmhosibl. Gellid lladd y pechadur felly. Boddwyd byd felly. Ond trwy haeddiant y mae lladd y pechod- trwy haeddiant y mae dybenu camwedd." Nis gallwn ddychmygu am barotoad gwell i ddyn ar gyfer Cyfarfod Eglwysig na darllen pregeth i Newman, Charles o Gaerfyrddin, neu Dr. Parry, y Bala, yn ystod y diwrnod.
Dengys ei bregethau hefyd nad rhaid i bregethu dyn o ddiwylliant eang ac ysgoleigdod diamwys fod yn fyr o eneiniad a naws ysbrydol. Yn ei hanes ef gwelir nad ydoedd gwir ddiwylliant wedi ei glymu o angenrheidrwydd wrth raddau Colegawl. Yr ydoedd yn ddyn o culture eang yn ystyr oreu y gair, ac fel y doethion gynt, ac fel pob gwir ddoethion, bob amser, offrymodd ei aur, ei thus, a'i fyrr, i'r baban a aned yn Methlehem. Wele ddyn wedi bod yn lloffa yn llwyddianus yn mhob maes, yn dod a'i ysgub o flaenftr wyth,--ei ysgub benaf, o faes yr Efengyl. Gwrthbrosa pregethau Dr. Parry am byth y syniad cyftredin, fod pregethau dynion o ddysg a diwylliant, i fod o angenrheidrwydd yn rhai sychion. Y maent oll wedi eu nawseiddio gan brofiad melus, ac arogl yr eneiniad oddiwrth y Sanctaidd Hwnw arnynt i gyd. Ac mor Ysgrythyrol ydynt. Gellwch ddarllen cyfrolau o bregethau diweddar, yn enwedig pregethau y Saeson, heb gymaint a dyfyniad o adnod am dudalenau lawer! Hen arferiad y Piwritaniaid oedd dyfynu adnodau, ac nid ydyw, gellid meddwl, yn cydweddu â chwaeth yr oes hon. Ond yn mhregethau Dr. Parry trethir yr holl Feibl i wasanaeth yr Efengyl, neu, i ddweyd yn fwy cywir, cloddir allan o'r holl Feibl fŵn aur gwerthfawr yr Efengyl. Ac y mae ei bregethau ar yr un pryd yn llawn o gyfeiriadau at bethau yr oes bresenol. Llenwir hwynt a chyfeiriadau hanesyddol, a brithir hwynt a chydmariaethau sydd yn dangos yn eglur fod y pregethwr mewn cyffyrddiad byw ag ysbryd ei oes. Ynddo ceir elfenau goreu y Piwritan, teithi ysgolaig, ymchwil hanesydd, medr llenor cyfarwydd, craffder athronydd, y cwbl wedi eu cyfuno i wneyd pregethwr na welodd Cymru odid ei well erioed. Y mae syched arnom, ïe, gwir syched am gael ychwaneg, os oes fodd, o'i bregethau yn argraffedig.