Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

roddodd yn ddiflin i'w holl efrydiau. Aeth i Edinburgh ya 1841; ac yn Awst, 1843, ceir ei fod wedi ei benodi yn athraw yn Ngholeg y Bala, ac yma y treuliodd weddill ei oes. Yn nghylch Penllyn yn benaf y treuliai ei amser mewn gwaith cyhoeddus. Am ddeng mlynedd bu yn dyoddef dan afiechyd a ymddangosai o natur y parlys yn ei fraich dde, ond er y gwendid hwn bu ei yni gyda'i ddyledswyddau yn rhyfeddol. Yn Ngorphenaf, 1873, derbyniodd y gradd o D.D. Daeth y diwedd i raddau yn anysgwyliadwy. Rhai o'i eiriau diweddaf, oeddynt:—" I am going to God's rest." Ac ar y 19eg o Ionawr, 1874, efe a hunodd, wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth trwy ewyllys Duw.