𝔊𝔬𝔤𝔬𝔫𝔦𝔞𝔫𝔱 𝔖𝔢𝔦𝔬𝔫.
Gan y diweddar Barch. John Parry, D.D., Y Bala,
"Ei sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd. Yr Arglwydd a gâr byrth Seion yn fwy na holl breswylfeydd Jacob. Gogoneddus bethau a ddywedir am danat ti, O ddinas Duw. Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod: wele Philistia, a Thyrus, yn nghyd ag Ethiopia. Yno y ganwyd hwn. Ac am Seion y dywedir, Y gwr a'r gwr a anwyd ynddi; a'r Goruchaf ei hun a'i sicrha hi. Yr Arglwydd a gyfrif pan ysgrifeno y bobl, eni hwn yno. Y cantorion a'r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynonhau sydd ynot ti." SALM lxxxvii.
CANMOLIAETH i Seion ydyw y Salm hon, fel cysgod o Eglwys Dduw. Tybia rhai iddi gael ei hysgrifenu i ddatgan llawenydd pobl Dduw pan oedd Seion mewn sefyllfa lwyddianus neu wedi cael rhyw fuddugoliaeth hynod, fel y waredigaeth gafodd Israel dan Hezeciah. Tybia eraill mai i gryfhau ffydd a gobaith pobl Dduw yr ysgrifenwyd hi pan oedd Seion yn anrheithiedig a chyn iddi gael ei hailadeiladu ar ol y caethgludiad i Babilon. Ar ol i'r deml gael ei hadeiladu, yr allor gael ei gosod i fyny, a gwasanaeth Duw ei adferyd, eto yr oedd sefyllfa yr eglwys yn bur isel, nid oedd ond gweddill yn aros, ac yr oedd y gweddill hwnw yn cael ei leihau bob dydd. Yr oedd