III. Gogoneddus bethau a ddywedir am ledaeniad yr Eglwys, "Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod." Y mae hyn yn dangos yr Eglwys yn ymeangu ac yn cymeryd i mewn y cenhedloedd fu yn elynol, fu yn sychedu am ei gwaed. Y rhai fu yn ei dirmygu a ddeuant i weled mai yr anrhydedd uchaf fydd cael eu rhestru yn mhlith dinasyddion Seion. Y mae yr Iuddewon yn deall y geiriau hyn fel ag i ddangos rhagoriaeth y genedl Iuddewig mewn rhinwedd a deall, —mai ychydig o ddynion enwog a gwyd o genhedloedd eraill, o Philistia, a Thyrus, yn nghyd ag Ethiopia; o'r braidd y bydd un rhyngddynt i gyd. "Yno y ganwyd hwn,"—rhyw un dyn enwog yn eu mysg hwynt oll; a chan mor anaml y byddant, gellir cyfeirio ato a'r bys a dywedyd "Yno y ganwyd hwn,"—dim ond hwn. Ond am Seion, "y gwr a'r gwr a anwyd ynddi," nid hwn yn unig, ond hwn a hwn, "y gwr a'r gwr." Y mae esbonwyr Cristionogol yn deall y geiriau am Grist, "y gwr a'r gwr," gwr y gwyr. Ond prophwydoliaeth ydyw y geiriau am ddychweliad paganiaid i Seion. "Cofiaf," hyny yw, hysbysaf, soniaf am "Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod." Cyfrifaf, rhestraf hwynt yn mhlith y rhai sydd yn fy adnabod. Cyfrifaf hwynt yn mhlith fy mhobl pan ymostyngant i'r efengyl, pan enir hwynt drachefn, pan ddelont i gyfranogi o ragorfreintiau y wir Seion. Er eu bod yn ddyeithriaid a phererinion, dygir hwynt yn gyd—ddinasyddion a'r saint. "Am Seion y dywedir, y gwr a'r gwr." Y mae y Salm yn cyfrif y cenhedloedd oedd fwyaf gelynol i'r Eglwys. Darostyngir y rhai mwyaf gelynoli'r Efengyl. "Rahab," y creulonaf. "Babilon," yr ymerodraeth eangaf. "Tyrus," y farchnadfa fwyaf. "Ethiopia,” hiliogaeth Ham ag ydoedd dan felldith. "Ygwr a'r gwr." Mae cyfeiriad hyn at enwogrwydd y deiliaid. “Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a'u brenhinesau dy famaethod; crymant i ti a'u hwynebau tua'r llawr, a
Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/193
Gwedd