Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/194

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd; canys ni chywilyddir y rhai a ddysgwyliant wrthyf fi." Y mae anrhydedd Seion yn gynwysedig yn y cyfnewidiadau mewnol. Y mae yr Eglwys yn gymdeithas o ddynion wedi ei sicrhau gan y Goruchaf. Nid unrhyw eglwys neillduol a feddylir, ond y mae Seion yn parhau er i eglwysi lleol ddiflanu. Bydd gan Dduw o hyd ei Eglwys broffesedig, "Dywedir am Seion, y gwr a'r gwr a anwyd ynddi. Y Goruchaf ei hun a'i sicrha hi." Y mae Seion yn sefyll pan y mae teyrnasoedd eraill yn diflanu. Nid oes un deyrnas ddaearol wedi llwyddo yn ngwyneb pob gelyniaeth, ond y mae Seion yn codi ei phen yn ngwyneb pob storm. Nid oes ond yr Eglwys wedi dal ei phen yn nghanol pob gelynion. Y mae yr ymosodiadau fu arni, ag sydd wedi bod yn ddinystr i gymdeithasau eraill, wedi bod yn fuddiol iddi hi, wedi lliosogi ei deiliaid, ac wedi ei phuro. Pan yn anrheithiedig y mae Duw wedi ei chodi eilwaith.

IV. Gogoneddus bethau a ddywedir am ei pharhad a'i dyogelwch, "a'r Goruchaf ei hun a'i sicrha hi." "Duw sydd yn ei chanol nid ysgog hi." "Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw Duw Jacob.' "Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa." Y mae y Salm yn galw ar ddynion i edrych ar Seion, "Amgylchwch Seion, ac ewch o'i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi. Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i'r oes a ddelo ar ol." Pa beth ydyw ei thyrau a'i rhagfuriau? Addewidion Duw—Duw mewn cyfamod, amddiffyniad Duw drosti, presenoldeb Duw gyda hi, a llywodraeth Crist arni fel Pen yr Eglwys. "Gosodais fy Mrenin ar Seion, fy mynydd sanctaidd." Dyma alwad ar bawb i'w hamgylchu —cyfeillion a gelynion.