Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/198

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. ℜ𝔬𝔤𝔢𝔯 𝔈𝔡𝔴𝔞𝔯𝔡𝔰, 𝔇.𝔇.
GAN Y PARCH. WILLIAM WILLIAMS, GLYNDYFRDWY.

YN y flwyddyn yr oedd y Methodistiaid wedi ymaddfedu i ordeinio gweinidogion o'u plith eu hunain, ac yn y misoedd yr oedd Mr. Charles yn trefnu i ddwyn oddiamgylch yr ordeiniad cyntaf, ganwyd un a gymerodd ar ol hyny ran yn ordeiniad nifer mwy o weinidogion nag odid neb o'i frodyr, oherwydd yn y Bala yn y flwyddyn 1811 fe anwyd y diweddar Barchedig Roger Edwards. Pan oedd yn dri mis oed, symudodd ei rieni i Ddolgellau, ac yn y dref hono y treuliodd flynyddoedd ei febyd a'i ieuenctyd. Yr oedd yn hanu o rieni parchus a chrefyddol, ac yr oedd awyrgylch foesol a chrefyddol tref Dolgellau yn un fanteisiol i gynydd deallol ac ysbrydol bachgen oedd yn ofni yr Arglwydd o'i febyd. Dygwyd ef i fyny yn dyner yn mysg pobl grefyddol a diwylliedig, a buan y cyfranogodd yntau o'u hysbryd. Pan oedd cyfnod y pregethu teithiol yn ei fri mwyaf, yr oedd Dolgellau yn cael cyfran helaethach na'r cyffredin o drefydd Cymru o weinidogaeth pregethwyr enwog y De a'r Gogledd ar eu mynediad trwodd o'r naill dalaeth i'r llall. Cafodd yntau, felly, fantais i ymgydnabyddu pan yn dra ieuanc â rhai o brif weinidogion y Cyfundeb, a pharodd bywiogrwydd ei feddwl a nerth ei gof iddo allu trysori yn ei feddwl lawer o'u dywediadau tarawgar.

Er na chafodd yr hyn a allai ei alw yn briodol yn addysg athrofaol, oherwydd nid oedd Athrofa wedi ei sefydlu gan ein Cyfundeb ni pan oedd ef yn ieuanc, eto efe a dderbyniodd addysg dda mewn amryw ysgolion oeddynt fwy neu lai uwchraddol, fel y gellid ei ystyried ar gychwyniad ei yrfa gyhoeddus yn ysgolor da, yn ddyn ieuanc diwylliedig, o chwaetli bur a choethedig, cymwys i droi yn esmwyth mewn cylchoedd uchel. Parhaodd iastudio a dysgu trwy