Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/199

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei oes. Dechreuodd bregethu yn ieuanc, a chyn hir wedi iddo ddechreu ar waith y weinidogaeth, symudodd i'r Wyddgrug, i gysylltiad â Chyfarfod Misol Sir Fflint, a daeth cyn pen llawer o flynyddoedd y goleuad dysgleiriaf yn mhlith gweinidogion y sir hono, ac yn un o ser dysglaer y pulpud Cymreig.

Y mae yn wybyddus ei fod er's blynyddoedd meithion cyn ei farw yn un o wyr mwyaf dylanwadol y dref a'r sir y trigai ynddi, yn gystal ag yn un o golofnau yr achos Methodistaidd yn y Dywysogaeth. Dangosodd yn dra buan ei fod yn wr grymus. Yr oedd ganddo yr hyn y gellir ei alw yn ddynoliaeth ardderchog, corph lluniaidd a phrydferth, ei symudiadau yn fywiog eto yn urddasol. Yr oedd cymesuredd yn gystal ag uwchraddoldeb yn nodweddu galluoedd ei feddwl, ac o ran ei dueddfryd a'i dymer naturiol yr oedd yn hynod o addfwyn, serchog, a chyfeillgar. Er fod ganddo ewyllys gref a meddwl penderfynol, yr oedd yn un o'r dynion mwyaf hoffus a dyddan, ac yn ei holl ymddygiadau yn wr anrhydeddus.

Yr oedd ei bregethau yn wastad yn llawn o athrawiaeth iachus yr efengyl, o duedd yn benaf i feithrin y bywyd ysbrydol yn yr enaid, ac i galonogi y saint yn eu hymdrech i gyraedd purdeb a pherfteithrwydd. Byddai ei bregethau o ran eu cyfansoddiad yn nodedig o drefnus, yr iaith yn syml ac eglur, y meddyliau a'r iaith yn goeth, a'r traddodiad, er nad yn hollol rwydd oherwydd gradd o atal dywedyd, eto yn hynod o ddymunol, yn gyffredin dan radd helaeth o eneiniad, ac ar brydiau yn neillduol o rymus. Mynych y gellir clywed adgofio pregethau a draddododd.

Nid oedd tuedd athronyddol yn un o deithi ei feddwl. Yr oedd yn nodedig am ei gydnabyddiaeth eang a'r Ysgrythyrau. "Yr oedd," meddai y Parch. Griffith Ellis, M.A., Bootle, mewn ysgrif, "ei hyddysgrwydd rhyfeddol yn y Beibl yn un o'r pethau mwyaf swynol yn ei bregethau a'i weddiau." Yr oedd yn fwy o fardd nag o athronydd er na themtiwyd neb, am a wyddom, i'w alw ef yn fardd—bregethwr. Diau ei fod yn fwy o dduwinydd nag o athronydd. Duwinyddiaeth iachus geid yn ei bregethau, yn cynwys hanfod yr efengyl, ac yn aml byddai rhyw dynerwch toddeidiol yn nodwedd neillduol yn ei bregethau. Gan mor bell yr ymgadwai oddi wrth ddull dadleuol o bregethu, rhyfedd gan ei wrandawyr am yr ugain mlynedd olaf o'i oes feddwl yr amheuid uniongrededd ei dduwinyddiaeth yn rhan gyntaf ei oes gyhoeddus, ac yr ystyrid ef yn un