Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/202

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond yr oedd Cronicl yr Oes yn wleidyddol a Rhyddfrydol o'r dechreu. Am rai ysbeidiau hefyd, efe, yn ol a allwn ni ei gasglu, oedd yr unig newyddiadur Cymraeg mewn bod. Ymddengys yn ddiamheuol mai y Parch. Roger Edwards ydoedd tad y newyddiadur gwleidyddol yn Nghymru. Er fod tua haner can mlynedd er pan ymddangosodd rhifynau cyntaf y papyr, cynhwysa sylwadau,—er engraifft, ar yr Iwerddon addas at ystad y deyrnas yn y blynyddoedd diweddaf. Yn ddiau, yr oedd y golygydd yn un o'r rhai oeddynt o flaen eu hoes. Dywedai Mr. E. J. Salisbury am dano: "Ni ddeliais yr amheuaeth leiaf, nid yn unig mai Mr. Edwards a lwyddodd i greu annibyniaeth meddwl parthed gwleidyddiaeth yn Ngogledd Cymru, eithr mai efe hefyd a'i sefydlodd trwy gyfrwng Cronicl yr Oes." Efe ydoedd awdwr "Y Tri Brawd," a gweithiau cyffelyb eraill, y chwedlau cyntaf o'u bath, y mae'n debyg, a ymddangosasant mewn misolion Cymraeg

Parhâi i ysgrifenu tra y bu byw. Tra yn golygu y Drysorfa, llwyddodd i'w chadw yn drysorfa nid mewn enw yn unig ond mewn ystyr fwy sylweddol hefyd, a mynych y cyfoethogid ei dalenau gan gynyrch ei feddwl. Bu yn cydolygu y "Traethodydd" hefyd gyda Dr. Edwards, a Dr. Thomas am ddeg neu ddeuddeng mlynedd ac yn y cyhoeddiad hwnw ceir prawf chwanegol o eangder ei wybodaeth, rhyddfrydigrwydd a nerth ei syniadau ar bynciau gwladol ac eglwysig, ei chwaeth bur, ei wladgarwch diledryw, a'i allu uchel fel llenor. Y mae bellach dros saith mlynedd er pan ddaeth ei fywyd llafurus i ben, ac heb arfer unrhyw ormodiaeth na cheisio rhoi lle uwch iddo nag a haeddai yn mysg cedyrn y pulpud, gellir dweyd yn ddibetrus nad oedd un o'r gwyr grymus a gwympasant yn ystod y deng mlynedd diweddaf yn fwy difai yn eu cyflawniadau cyhoeddus, yn fwy hawddgar a serchog eu tymer, nac yn fwy boneddigaidd a difrycheulyd eu hymddygiad, na'r un a adnabyddir yn dda ac a gofir yn hir gan genedl y Cymry wrth yr enw Roger Edwards. Daeth ei yrfa i ben ar y 19eg o Orphenaf, 1886.