Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/203

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔊𝔬𝔰𝔱𝔢𝔤 𝔤𝔢𝔯𝔟𝔯𝔬𝔫 𝔇𝔲𝔴 𝔶𝔫 𝔢𝔦 𝔇𝔢𝔪𝔩.
Gan y diweddar Barch. Roger Edwards, D.D., Wyddgrug.

"Ond yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd; y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef." HABACUC ii. 20.

Yr ydym yn cael Habaccuc, fel prophwyd Jehofah, yn rhagddywedyd yn y benod o'r blaen am y farn alaethus oedd i ddyfod ar Jerusalem a Judah drwy law y Caldeaid, ac yn y benod hon yn rhagfynegu cwymp y Caldeaid hyny, y rhai yn falch a thrahâus a ymffrostient yn eu goruchafiaeth ar Israel Duw. Mynych

yn ysgrifeniadau y prophwydi yr ydym yn gweled fod yr Arglwydd, ar ol cymeryd gelynion ei bobl yn fflangell yn ei law i'w ceryddu hwy am eu beiau, yn y diwedd yn cosbi'r gelynion, o herwydd, er fod ei ragluniaeth ddoeth a chyfiawn yn eu defnyddio yn offerynau ei farn, nid oeddynt hwy yn meddwl am ryngu ei fodd ef, ond yn ceisio eu boddhâd a'u dyrchafiad eu hunain, a'u bod, wedi unwaith gael y llaw uchaf ar ei bobl, yn eu gorthrymu yn ddirfawr. Fel hyn y bu gyda'r Caldeaid neu'r Babiloniaid; ac felly cyhoeddir yn y benod hon waëau Duw arnynt; a chan ddarlunio eu huchelgais anniwall, eu gorthrwm, eu hanghymedroldeb, a'u heilunaddoliaeth, dangosir mor gymwys a chyfiawn ydyw eu cosbedigaeth. Mae ein testyn