Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn dyfod i mewn yn nglyn â'r cyfeiriad at eu delwaddoliaeth. Fe nodir nad oedd duwiau Babilon ond pethau mudion, difywyd; delw gerfiedig o gareg, neu ddelw dawdd o fetel, neu ddelw naddedig o bren, heb un anadl o'u mewn; duw salw yn wir, nas gallasai glywed ei addolwyr yn ei gyfarch, na dywedyd un gair wrthynt. Ond y mae genym ni, medd y prophwyd, Dduw gwerth son am dano, Duw byw, Duw 'r nefoedd a'r ddaear. "Ond yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd." Er i'r Caldeaid ddifrodi ei deml ef yn Jerusalem, y mae ganddo Ef deml anfeidrol fwy ac ardderchocach na hono, yr hon na ddystrywir byth. Mae ei deml fry allan o gyraedd holl falais ei elynion, ac eto y mae o fewn cyraedd gweddi'r gwaelaf sydd yn dysgwyl wrtho. Ac nid Duw un wlad a chenedl yw ein Harglwydd ni, "Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir Ef;" ac y mae yn weddus i'r holl ddaear ei gydnabod a'i wasanaethu Ef, heb rwgnach nac ymddadleu. "Y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef."

Mae rhai beirniaid yn edrych ar y testyn fel canolbwynt yr holl lyfr—fel conglfaen holl adail y brophwydoliaeth. Pa bethau brawychus bynag sydd i'w hofni, pa bethau daionus bynag sydd i'w dysgwyl, pa bethau mawrion bynag sydd i'w cyflawni, dyma ddigon ar gyfer y naill a'r llall: "Yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd." Yno y bydd efe yn wastad i'w gael; yno yn ei ogoniant, yno yn llefaru, yno yn gweithio; a dyledswydd a braint holl deulu dyn yw syrthio yn addolgar wrth ei ystol droed, "Y ddaear, gostega di ger ei fron ef."

Wrth "deml sanctaidd" Duw yn y lle hwn, mae yn ddiau mai nef y nefoedd a olygir yn mlaenaf a phenaf. Yno y mae trigfa neillduol y Duwdod, lle y mae'r Jehofah yn ei amlygu ei hun fwyaf a gogoneddusaf. Nis gallasai'r babell yn yr anialwch ac yn Silo, na'r deml yn Jerusalem, fod yn wir a phriodol breswylfa Duw.