Nid oedd hyd yn nod y Shecina, er ei danbeidrwydd ofnadwy, ond arwydd Duw, rhywbeth arwyddol, portreiadol, o'r "goruchel a'r dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb," ac a ddywed yn benodol am y nef, "Y goruchelder a'r cysegr a breswyliaf; y nef yw fy ngorseddfainc." Portreiad y gwir gysegr oedd y cysegr o waith llaw, ac yr oedd mynediad yr archoffeiriad Iuddewig i'r sancteiddiolaf gynt, yn ffigiwr a chysgod o'r Archoffeiriad mawr, Iesu, Mab Duw, yn myned "i'r nef ei hun, i ymddangos gerbron Duw drosom ni." Ac y mae yn hyfryd i ni gofio fod genym frodyr lawer yno gyda'r Arglwydd, am y rhai y lleferir "Y maent gerbron gorseddfainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef yn ei deml." Ac y mae yn werthfawrocach fyth i ni ddeall y gallwn ni, tra eto ar y ddaear, fod mewn cysylltiad â'r deml ogoneddus hon. Yr oedd cynteddoedd, yn nghydag ystafelloedd amrywiol, yn perthyn i'r deml hynafol ar fynydd Seion, ac yn cael llefaru am danynt fel rhan o honi. Un deml y cyfrifid yr holl adeiladaeth eang, o'r sancteiddiolaf hyd y cyntedd nesaf allan a'r ystafelloedd oddiamgylch. Felly gallwn ninau ddywedyd fod crefydd y Beibl, crefydd Iesu Grist, wedi dwyn yn un y drydedd nef a'r ddaear hon, a chyfansoddi cymanfa a chynulleidfa 'r nefolion, a chydgynulliad y saint yn mysg daearolion, yn un deml fawr i Dduw a'r Oen. Ië, y mae'r ffordd i ni yn agored i'r cysegr sancteiddiolaf; mae'r wahanlen wedi ei rhwygo, fel, i lygad ffydd fod yr holl deml yn rhyw un ystafell helaethfawr, agored, heb ddim yn ein gwarafun i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, a nesau yn hyderus ato ar y drugareddfa.
Dyma nodwedd arbenig y breswylfa ddwyfol, "ei deml sanctaidd." Yn ol iaith y Beibl, mae yr hyn oll sydd yn gysylltiedig â Duw a'i wasanaeth yn sanctaidd ar gyfrif eu bod yn neillduedig i'r Arglwydd. "Ei le sanctaidd ef," oedd y deml gynt, y man a ddewisodd