Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/206

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Duw Israel i gyfarfod â'i bobl ac i dderbyn eu gwarogaeth. Yr oedd y deml ddaearol yn hynyma yn gysgod o'r deml nefol. Yno y mae cartref sancteiddrwydd ; nid sancteiddrwydd seremoniol a defodol, ond "gwir sancteiddrwydd;" uniondeb a phurdeb perffaith yw y cwbl a berthyn iddi, heb ynddi unpeth na neb ansanctaidd. Rhaid i ninau ar y ddaear, wrth gyfeirio ein gwasanaeth at Dduw yn y nefoedd, ymsancteiddio, "ymlanhau oddiwrth bob halogrwydd, cnawd ac ysbryd," ac onide ni a fyddwn anghymeradwy.

Gallwn weled yma fod a fyno Duw o'i deml nefol â'r ddaear hon. "Yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd," uwchlaw y ddaear, yn perchenogi y ddaear, ei sylw yn uniongyrchol ar y ddaear, ei feddyliau yn feddyliau o heddwch am y ddaear, a chyngor ei ewyllys yn cyraedd at holl amgylchiadau y ddaear. Gan hyny, "y ddaear oll," y ddaear hyd dy holl gyrau, y ddaear yn dy holl drigolion fel un dyn, gostega di ger ei fron ef. Yn ei deml efe a dderbyn addoliad genyt; gostega, a moes iddo ogoniant ei enw. Yn ei deml efe a lefara wrthyt; gostega, a gwrandaw beth a ddywed yr Arglwydd Dduw. O'i deml efe a wna â thi yr hyn a fyddo da yn ei olwg; gostega, ac na ddywed ddim yn ynfyd yn erbyn ei drefniadau. Ni a safwn bellach ar y pethau hyn, mewn ffordd o ymhelaethiad cymhwysiadol ar dystiolaeth ac anogaeth y testyn.

Dyna ein sylw cyntaf: Yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd yn wrthddrych addoliad; y ddaear oll, gostega i roddi yr addoliad dyledus iddo.

Mae'r gair "teml" yn cyfeirio ein meddwl at addoliad, at wasanaeth crefyddol. Duw yn ei deml sydd Dduw i'w addoli. Mae'r ddaear oll, dynion yn gyffredinol, a dynion yn unedig, i addoli Duw. Ac er mwyn ei addoli yn deilwng, "y ddaear oll, gostega." Arafa, llonydda, ymryddha oddiwrth bob peth sy'n