anhwyluso addoli, tyngheda ddystawrwydd ar bob dadwrdd, addola mewn gwylder a pharchedig ofn; Gostega di ger ei fron ef." Dylai pob tawelwch a gweddeidd-dra allanol fod yn addoliad y Goruchaf. Dylai pawb wneyd egni i ddyfod i dŷ yr Arglwydd yn brydlawn, erbyn ac nid ar ol awr dechreu yr addoliad, fel y caffer pob gosteg i ddarllen a gwrando gair Duw, ac i gyd-weddio arno; ac fe ddylai fod pob ystûm ar y corff, pob agwedd ac ymddygiad, tra yn y cysegr, yn wasanaethgar i ysbryd addoli, ac yn arwyddol o wir barchedigaeth addolgar. Ond fe all yr agwedd allanol fod yn weddaidd, ac eto, anrhefn a therfysg mewn rhwysg oddi fewn : y meddwl a'r galon yn mhell o fod wedi gostegu gerbron Duw. Mae'r dyn o ran ei gorff yn yr addoldy, yn eistedd yn ddystaw, ond ei ysbryd yn nghyrau'r byd, mae'n ffair wyllt gyda chuddiedig ddyn ei galon, ac y mae yn nghyfrif y nefoedd yn gwneyd tŷ Dduw yn dy marchnad. Dyna fel yr oedd rhai o wrandawyr Ezeciel: yr oeddynt yn eistedd o flaen y prophwyd, yn ymddangos yn gwrando arno, gan ymhyfrydu yn ei ddawn, ond, medd Duw, "Eu calon sydd yn myned ar ol cybydd—dod." Yr oedd Duw yn cael y glust, ond y byd yn cael y galon. O, am i ni allu dweyd yn onest gyda'r Salmydd duwiol, “Meddyliau ofer a gascais, a'th gyfraith di a hoffais." Yr oedd Abraham, pan yr oedd yr adar yn disgyn ar gelaneddau yr ebyrth yn eu tarfu hwynt. Gwnawn ninau felly â'r meddyliau gwibiog fydd yn aflonyddu arnom yn ein haddoliadau. Na foed ini adael i'r adar ysglyfaethus ddifrodi ein haberthau ysbrydol, ond ymrown i'w hymlid hwynt ymaith. Anfonwn waedd i'r nefoedd, "Una fy nghalon i ofni dy enw." Yr hwn a ostega'r gwynt a'r môr cynddeiriog, gall efe dawelu'r galon fwyaf gynhyrfus. Rhyw adegau hyfryd i Gristion yw'r munydau y byddo wrth fyfyrio, wrth weddio, wrth ddarllen, wrth ganu, wrth wrando, wrth gymuno, yn teimlo ysbryd
Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/207
Gwedd