addoli yn gorchfygu ysbryd y byd ac yn peri gosteg sanctaidd drwy ei holl enaid. Mae hyn yn debyg i oruchafiaeth llanw'r môr, pan fyddo yn dyfod am rai milldiroedd i fyny yr afon. Mae'r afon yn rhedeg yn ei erbyn, a gallech feddwl ar y dechreu y troai hi'r llanw yn ol; a dyna gryn luchio, ymdaflu, ac ymgynhyrfu ar y dyfroedd. Ond y mae'r llanw yn mynu dyfod rhagddo, fel yn dweyd yn hyf-Mae yn rhaid i mi orchfygu, mae'r môr genyf wrth gefn. Toc, bydd yn ben llanw, ac yna ni welir ond rhyw un sheet lydan o ddyfroedd tawel, heb fwrlwm na chrychiad yn unlle, yn edrych âg wyneb agored tua'r wybren, ac yn rhoi adlewyrchiad hyfryd o haul y nefoedd, a dyfroedd yr afon bellach o'r un lliw a blâs a dŵr y môr. A gawn ni, frodyr, gyd-weddio mewn taerineb, O, Ysbryd y Duw byw, dyro yr awrhon, o'r mor o ras sydd ynot, lanw o ysbryd addoli i feddianu ein heneidiau, fel y gosteger ynom bob cynhyrfiadau allanol a daearol, ac y byddo tangnefedd Duw yn cadw'r meddwl a'r galon yn Nghrist Iesu!
"O, na ddeuai nerth i waered
Fel llifeiriant mawr ei rym,
Fel nad allo 'm nwydau penaf
Mwyach ei wrthsefyll ddim.
Dyma sylw arall: Yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd yn hysbysu ei feddwl a'i ewyllys; y ddaear oll, gostega i wrando a derbyn ei eiriau.
Hwyrach y dywedir fod y sylw hwn heb nemawr wahaniaeth rhyngddo o ran syniad a'r sylw blaenorol. Mae addoli, mae yn wir, mewn gwrando, ac y mae iawn wrando yn addoli. Ond fe ddichon y gallwn ni, wrth roddi ein gosodiad hwn fel hyn, gyflwyno rhai meddyliau chwanegol, os nad gwahaniaethol, yn nglyn a'r testyn.
Yr oedd Duw yn ei babell, ac yn y deml, yn gwneyd ei feddwl yn hysbys i'r Israel, "Mi a gyfarfyddaf â thi