Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/209

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yno," medd efe, "ac a lefaraf wrthyt oddiar y drugareddfa." Ac felly ni a gawn y Salmydd yn deisyfu aros yn nhŷ yr Arglwydd, er mwyn "ymofyn yn ei deml," er mwyn cwestiyna, ymholi, gofyn cyfarwyddyd am y pethau mwyaf oll; canys yr oedd yr ateb Dwyfol i'w ddysgwyl yno yn arbenig, ac yn enwedig trwy yr Urim a'r Thummin. Y mae Duw eto yn llefaru yn y dyddiau diweddaf hyn, a hyny yn y modd pwysicaf a'r egluraf; mae yn llefaru wrthym ni yn ei Fab, a phriodol ydyw dweyd yn awr gyda'r prophwyd gynt, “O ddaear, ddaear, ddaear, gwrando air yr Arglwydd." Y ddaear oll, pob dyn yn mhob man-ti yr hen a thithau yr ieuanc, tydi o radd uchel a thithau o radd isel, ti broffeswr a thydi'r dibroffes, gostega, a gwrando beth yw'r gair sydd yn dyfod oddiwrth yr Arglwydd. Pan fydd y barnwr yn llefaru yn llys barn, yn enwedig pan yn cyhoeddi'r ddedfryd ar y carcharor a saif o'i flaen, bydd yno bob dystawrwydd yn cael ei orchymyn. Gosteg, gosteg! medd swyddog penodol, fel y clywer fy arglwydd farnwr. A wyt ti yn ystyried, fy enaid, dy fod yn awr yn nhŷ Dduw, mewn lle ofnadwy, ac y byddai yn wallgofrwydd i ti yma adael i ddim ddwyn dy feddwl oddiarnat? Gostega, nid i wrando yn gywreingar faterion rhai eraill, ond i glywed dy sentence dragwyddol di dy hun. A wyt ti eto heb gredu yn Nghrist? Os felly, dyma ddedfryd Duw, Barnwr pawb, arnat yr awr hon : " Yr hwn nid yw yn credu, a ddamniwyd eisoes. Yr hwn sydd heb gredu i'r Mab, ni wêl fywyd, eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef." Neu, o'r tu arall, os wyt yn ymdaflu yn golledig fel yr wyt ar haeddiant yr Hwn mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol am dy fywyd byth, wele farn o ryddhad y nefoedd yn cael ei chyhoeddi uwch dy ben: "Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir. Nid oes, gan hyny, yn awr ddim damnedigaeth i'r rhai sydd yn Nghrist Iesu." Neu, os nad oes yn y fynwes eto ond rhyw bryder am fod