Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/210

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gadwedig, dechre sefyll yn ddifrifol uwch ben mater enaid, rhywbeth yn peri i ti waeddi, O am fod yn barod i gyfarfod â Duw! Mae yr Arglwydd a'r deml sanctaidd yn dy gyfeirio rhag blaen at obaith iachawdwriaeth: "Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist a chadwedig fyddi." "Nid oes iachawdwriaeth yn neb arall." Duw y duwiau, sef yr Arglwydd, a lefara fel hyn, "Y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef." Pawb sydd yn gwybod oddi ar brofiad fod geiriau Crist yr hyn y dywed ef ei hunan eu bod, "Ysbryd ydynt a bywyd ydynt,"—mae yn flin ganddynt hwy os bydd rhywbeth yn eu rhwystro i ymlynu wrth ei draed, i dderbyn ei eiriau; a hwy a fynent roi charge dystawrwydd ar bob twrf a dwndwr—

O dystewch derfysglyd donau,
Tra fwy'n gwrando llais y nef;
Swn mwy hoff, a sain mwy hyfryd
Glywir yn ei eiriau Ef,
F'enaid gwrando,
Lais tangnefedd pur a hedd."

Bendith nas gellir ei phrisio yw fod y galon yn nghysegr Duw yn arafu a gostegu oddiar barch i awdurdod ddwyfol y gwirionedd. Fe dybygid fod llawer o honom ni, genedl y Cymry, yn dysgwyl yn awchus mewn odfeuon fel hyn am gynhyrfiad teimlad, rhywbeth i ogleisio eu serchiadau a'u tymherau, rhywbeth a wnelo iddynt wenu neu wylo; ac fe glywir rhyw bobl yn achwyn ar bregeth neu gyfarfod crefyddol lle na chynyrchir ynddynt gyfryw gynhyrfiad. Yn wir, mae yn werthfawr cael ambell oedfa fydd yn twymno calon, nes peri i'r hen eiriau anwyl a glywsom gan ein tadau—yr O diolch, a'r Gogoniant, a'r Amen—lithro dros y wefus. Ond rhaid i ni gydnabod y gellir cael boddhad a chynhyrfiad fel hyn, nid oddiar weled gogoniant a theimlo rhinwedd yr efengyl ynddi ei hun, ond oddiar fawrygu rhyw drimmings ar y wisg fydd arni ar y pryd. Ond, fy nghyfeillion, os byddwch dan