ddigon o bethau amlwg tuag at hwylio ein ffordd yn ddyogel "o ganol byd i ganol nef;" ac os cawn ein hunain wedi myn'd i'r lle sanctaidd a gwynfydedig uchod, ni a gawn dragwyddoldeb i astudio dirgeledigaethau sydd yn awr yn nghudd oddiwrthym. Nage, medd y pryfyn balch sydd, yn lle cymeryd y gyfraith o enau yr Arglwydd, yn demandio rheswm paham hynyma a phaham hyn arall. Paham y goddefodd Duw i bechod a thrueni ddyfod i'r byd? paham y mynodd efe arfaethu ac ethol i wneuthur rhagor rhwng rhai ac eraill? paham na ddyry efe ras cadwedigol i bawb yn ddiwahaniaeth? yn nghyda lluaws o pahamau eraill. Na, druan! "Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti, yr hwn a ddadleua yn erbyn Duw?" Ië, yn wir, pwy wyt ti? Prin, feallai, y cyrhaeddaist ti yr oedran o driugain mlynedd, neu feallai nad wyt wedi cyraedd haner cant, neu hwyrach nad wyt ti, y gwrthddadleuwr ffraeth, wedi gweled deng mlynedd ar hugain eto. Nid yw ond megys doe pan oeddit yn sugno bronau dy fam, yn beth distadl a dwl iawn; ni wyddit y buasai canwyll yn llosgi dy fys pe rhoisit ef ynddi; nid allesit na cherdded, na sefyll, na chropian, a thrwy fawr drafferth y dysgaist y naill a'r llall, a gorchest fawr yn ngolwg rhieni hoff oedd i ti fedru lispio haner geiriau. Ac yn wir nid wyt eto ond yn rhyw ddechre adwaen pethau o'th amgylch, ac y mae hyny o wybodaeth sydd genyt yn gymysg a llawer iawn o gamgymeriadau. Ac ai tydi sy'n meiddio eistedd mewn barn ar eiriau a gweithredoedd dy Wneuthurwr, y Duw unig ddoeth, yr hwn sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb? Dystawa, rhag cywilydd! gostega di ger ei fron ef. O am i ni oll fod yn debyg i'r Athraw mawr, yn addfwyn a gostyngedig o galon, canys "Y rhai llariaidd a hyfforddia efe mewn barn, a'i ffordd a ddysg efe i'r rhai gostyngedig."