Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/213

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dyma ein sylw olaf: Yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd, oddiyno yn llywodraethu ar bob peth; y ddaear oll, gostega di mewn ymostyngiad hollol iddo.

Darlunir y Jehofah mewn cysylltiad â'r arwydd dwyfol o'i bresenoldeb yn y deml yn eistedd fel Brenin ar ei orseddfainc. "Gorsedd ogoneddus ddyrchafedig o'r dechreuad yw lle ein cysegr ni," medd Jeremiah. Yno yr oedd efe fel Brenin Israel, yn rhoi allan ei broclamations brenhinol, a hyny nid mewn cysylltiad ag Israel yn unig, ond a'r holl genhedloedd oddiamgylch, oherwydd yr oedd llawer o'r cenhedloedd hyny yn elynion Israel, a rhai o honynt weithiau yn gynghreirwyr iddynt, fel y mae'r byd eto yn ei wahanol agweddau at yr eglwys. Wel, y mae'r frenhiniaeth ddwyfol a geid yn arwyddluniol yn nheml Jerusalem gynt i'w chael yn barhaus yn y modd mwyaf sylweddol a thrwyadl yn y deml sanctaidd uchod. "Yr Arglwydd a baratodd ei orseddfa yn y nefoedd;" yno, nid yn unig fel llys, ond fel teml; ac yno, "ei frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bob peth." Yn llyfr y Dadguddiad, diweddglo yr holl Feibl, yn nheml Dduw yn y nef, a chydag arch ei gyfamod ef, yr ydym yn cael gorseddfainc Duw a'r Oen; ac oddiyno y darlunir y saith angel, y naill ar ol y llall, yn dyfod i gyflawni eu dirprwyaethau pwysig ar y ddaear. Rhyfedd byth! mae gorseddfa Arglwydd pawb oll o dan yr un gronglwyd, yn yr un ystafell, â swyddfa Cyfryngwr y Testament Newydd. Yn y deml gysegredig i orchwylion gras, y gras sy'n gweithio trwy'r prynedigaeth yn Nghrist Iesu, oddiar y drugareddfa sydd wedi ei thaenellu â gwaed yr Oen, yno y trinir holl achosion y llywodraeth oruchel sy'n cymeryd i fewn holl dalaethau creadigaeth Duw. Mae pawb, yn sanctaidd ac yn ansanctaidd, pob angel, pob cythraul, pob dyn, o dan ei lywodraeth ef, y Gwr a welwyd gynt mewn agwedd gwas, yn ufudd hyd angau, ïe, angau'r groes, gan y rhaid iddynt oll