Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/214

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod yn wasanaethgar i ddwyn yn mlaen amcanion yr angau rhyfedd hwnw. O'r deml y daw yr holl gyfraniadau grasol, ac allan o honi hefyd y daw yr holl oruchwyliaethau barnol.

Gan mai yn ei deml, sanctaidd y mae gorsedd Brenin mawr yr holl ddaear, cymwys yw'r siars hon, "Y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef." Yn man trugaredd y llawnodwyd comisiwn yr angel sydd yn tywallt phiolau digofaint ar y ddaear yn gystal a'r angel sydd a'r efengyl dragwyddol ganddo. A chan mai o'r deml y daw'r farn yn gystal a'r fendith, nid oes le i ddweyd gair yn erbyn. Tybygem nad oes un Cristion na fawr ddymunai weled golygfeydd hyfryd llwyddiant cyffredinol efengyl Crist, pan fydd yr holl ddaear, fel y cysegr gynt, wedi myned yn llawn o ogoniant yr Arglwydd. Ond, o bosibl, rhaid i lawer o honoch chwi sydd yma heddyw ymbarotoi i weled pethau ofnadwy yn gyntaf, fel y darlunir yn ngweledigaeth Patmos,— lleisiau, a thân, a mellt, a daeargryn, a chenllysg mawr fel talentau, y fath na bu er pan yw dynion ar y ddaear. Ond os felly y bydd, gellwch fod yn sicr mai gwaith Angel y Cyfamod fydd hyny; efe, mewn atebiad i weddiau 'r saint, wedi llanw 'r thuser aur â thân yr allor, yn ei fwrw ar y ddaear. Gostega ger ei fron ef, gan ofalu myned yn brydlawn i'r ystafelloedd clyd a ddarparodd efe; yno i lechu megys enyd bach, hyd onid elo'r llid heibio.

Os bydd raid i ni ddyoddef adfydau personol a theuluaidd, gwybyddwn mai Duw'r deml, Duw yr heddwch a'r gras, sydd yn eu hanfon; a phan dan lwythau o drallodion, yn lle gwneyd dim tebyg i ymryson â'r Hollalluog, gostegwn ger ei fron ef. Os na wyddom paham y dygwyddodd hyn neu arall, ni a wyddom pwy sy'n goruwchreoli yr oll. Oddiar hyn yr oedd Dafydd yn gostegu pan mewn nychdod corff a blinder meddwl, "Aethum yn fud, ac nid agorais