Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/219

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. 𝔍𝔬𝔥𝔫 ℌ𝔲𝔤𝔥𝔢𝔰, 𝔇.𝔇.

FEL PREGETHWR.
Gan y Parch. John Owen Jones, B.A., Y Bala.

NID oes neb wedi ysgrifenu am y diweddar Ddr. Hughes nad ydyw yn mhlith pethau eraill wedi crybwyll am ei arabedd. Ac yr oedd efe yn ddiddadl yn feddianol ar wir arabedd. Nid gwawdiaith ydym yn ei olygu. Yr oedd efe 'n feistr ar wawdiaith ; gallai ddweyd pethau, os byddai 'n argyhoeddedig mai'r ffordd hono y gwnai fwyaf o ddaioni, a dynai waed. Ond y mae gwahaniaeth rhwng arabedd a gwawdiaith. Gall y naill a'r llall fod yn ddigrifol ; ond rhaid i'r cyntaf fod felly, dichon y llall beidio bod. Nid yw pob dyn sarcastic yn humorous, ond anfynych y ceir dyn gwir humorous heb feddu 'r gallu i fod yn sarcastic hefyd. Y mae ambell un wrth geisio bod yn ddigrifol, yn ysgafn a chwareus, wrth geisio dangos ei fod yn feddianol ar arabedd, yn ddieithriad yn clwyfo; y mae ei arabedd yn troi yn wawdiaith frathog. Nid felly Dr. Hughes. Gallai ef fod yn wir ddigrifol heb glwyfo neb, a gallai ddefnyddio 'r wawdiaith lemaf heb ddigio 'n anghymodlawn y sawl fyddai dan y wialen. I bawb fu'n gwylio tipyn ar ei symudiadau yn y Cymdeithasfaoedd a'r Cyfarfodydd Misol, a chylchoedd eraill, mae 'n amlwg mai nid anfynych y byddai ei ddigrifwch yn bygwth troi 'n brofedigaeth iddo. Os byddai rhywbeth mwy digrifol na'i gilydd mewn rhyw anerchiad neu amgylchiad neu gynllun, byddai Dr. Hughes yn sicr o'i weled, ac odid fawr na lwyddai i'w osod allan mewn rhyw ymadrodd byr, cynwysfawr. Ond yn ei bregethau llwyddai i gadw'r