arabedd hwn dan reolaeth, gan ei ddefnyddio weithiau i amcanion gwir ragorol.
Nis gallai neb wrandaw ar Dr. Hughes yn pregethu heb deimlo ei fod efe yn gwbl feistr ar yr iaith Gymraeg. Byddai ei eiriau bob amser yn bur, yn gryf, ac yn ddetholedig, a'i frawddegau 'n gaboledig dros ben; a llawer gwaith y clywsom ef yn rhoi pwys ar i bregethwyr ieuainc ddysgu Cymraeg, myn'd i mewn i drysorau 'r iaith, ac nid ei llurgunio neu ymfoddloni ar ryw "Gymraeg llaprog, plwyfol," pan yn ceisio traethu gwirioneddau mawr yr efengyl. Credai ef y dylai 'r pregethwr gysegru pob gallu a mantais a fedd i wasanaethu 'r efengyl, ac ymdrechai yntau roddi iddi oreu yr iaith Gymraeg. Y mae gan ambell un fwy o feddyliau nag o iaith, ac arall fwy o iaith nag o feddyliau, ond llwyddai Dr. Hughes i osod allan y meddyliau mwyaf yn yr iaith odidocaf. A theimlid hyny'n arbenig pan y byddai'n gwahaniaethu rhwng geiriau a'u gilydd, fel y clywsom ef unwaith yn gwahaniaethu rhwng callineb a doethineb. Gwnai efe hyn yn lled fynych yn ei bregethau; ond nid er mwyn gwahaniaethu neu wneyd arddangosiad o'i allu i ddadansoddi, ond er mwyn drwy hyny ddwyn gwirioneddau pwysig i'r amlwg. Mynych y llwyddai, drwy'r dull hwn, i ddinystrio llawer o gau syniadau, i ddangos prif elfenau rhyw wirionedd fyddai ganddo dan sylw, ac yna i'w cyfuno gan eu dwyn i egluro 'i brif bwnc: a thrwy hyny clevo deall ac yn aml gyraedd calon y gwrandawyr.
Deuai yr un manylrwydd i'r golwg mewn nodwedd arall a welid mewn llawer o'i bregethau. Os mai Lightfoot a Meyer oedd ei hoff esbonwyr, teimlem yn wastad, wrth geisio 'i ddilyn yn troi a throsi o gwmpas ei destyn, gan egluro 'r cysylltiadau a dangos perthynas y gwahanol ranau a'u gilydd ac â phrif wirionedd y benod neu 'r llyfr, y byddai pob esboniad llyfr wedi ei lyncu i fyny yn y syniad clir a fyddai ganddo ef ei hun. Nid oedd efe, mae'n wir, wedi myn'd yn ddwfn, yn ol ei gyfaddefiad ei hun, i feusydd yr Uwchfeirniadaeth; parotoi yr ydoedd, yn ei ddyddiau olaf, i wneyd ymosodiad ar y maes hwnw. Er hyny, gorfodid pawb i deimlo fod yn ei esboniadaeth ef ar lawer adnod ryw newydd-deb a manylrwydd neillduol. "O holl alluoedd ei feddwl," ebe rhywun am dano, "hwyrach nad oedd yr un yn fwy nodweddiadol na'r gallu oedd ganddo i ddihysbyddu cynwysiad y llyfr a ddarllenai, ac i droi ei sylwedd i fod yn rhan o sylwedd ei ysbryd ef ei hun." A gellir