sydd wir am rai; ond nid hyn sydd yn peri fod dynion yn awyddus am ei glywed ef. Nid wyf yn dweyd nad oes ganddo lais a fuasai yn swyno y cynulleidfaoedd pe buasai yn gwneyd defnydd o hono; ond nid llais yw ei hynodrwydd ef. Nid mewn adrodd ystraeon ychwaith y mae cuddiad ei gryfder. Nid wyf am fychanu ei allu i wneyd defnydd da o stori, ond nid trwy hyny y mae efe wedi enill ei boblogrwydd." Dyma, yn ol Dr. Thomas, brif nodweddion Dr. Hughes fel pregethwr, —"Ei allu i roddi eglurhad goleu a llawn ar wirioneddau gogoneddus yr efengyl; yr olwg eang a gymer ar y gwirionedd yn ei wahanol gysylltiadau ac oddiar wahanol safleoedd; ei degwch yn ei ymwneyd â syniadau gwahanol i'r rhai a gymeradwya ef ei hunan; yr ymwybodolrwydd cryf a fedd yn y gwirionedd, yr hyn sydd yn peri iddo fod yn hollol hunanfeddianol a diysgog yn nhraethiad ei genadwri; cyfoeth anhysbyddadwy ei wybodaeth, dirnadaeth eang, cyflawnder o feddyliau, a'r geiriau goreu i'w gosod allan mewn prydferthwch: gofal neillduol am roddi lle a phwysigrwydd i bob gwirionedd yn ol y lle a'r pwysigrwydd sydd iddo yn Ngair Duw; ei barodrwydd bob amser i dderbyn argraff y gwirionedd ar ei feddwl ei hunan; ei fod yn amcanu dangos y cysylltiad sydd rhwng y gwirionedd yn bynciol â moesoldeb, ac yn hyn y mae yn ddysgybl perffaith i'r Apostol Paul."