ADGOFION AM SASIWN DOLGELLAU, 1860.
Gan y Parch. Griffith Ellis, M. A., Bootle.
Gofynir i mi roddi ychydig o hanes oedfa rytedd Dr. Hughes yn Nolgellau yn 1860; ond nid oeddwn pan yn ei gwrandaw yn llawn 16 oed, ac felly tra bachgenaidd o angenrheidrwydd yw fy argraffiadau. Ond y mae yr adgof am dani yn nodedig o ddedwydd ; ac nid wyf yn tybio y camgymerwn ychwaith pe dywedwn nad yw fy adgof am unrhyw oedfa braidd yn fy oes yn fwy byw nag ydyw am yr oedfa ac am y Gymdeithasfa hono. Buaswn mewn Sassiwn yn Nolgellau yn ngwanwyn 1853, ac mewn un arall yn Machynlleth yn Mehefin, yr un flwyddyn. Ac yr wyf yn cofio rhyw bethau o'r ddwy yn dda. Y cyntaf a glywais yn pregethu yn Sassiwn Dolgellau oedd y Parchedig David Charles, Caerfyrddin. Ar lin fy nhad yr oeddwn yn gwrandaw; a phan yr adroddai y pregethwr y penill, “O fryniau Caersalem ceir gweled," &c., sisialai fy nhad yn fy nghlust inau, " Ei dad o wnaeth y penill yna:" Ond peth mawr y Sassiwn hono i mi oedd gweled Henry Rees. Efe oedd yr agosaf o bawb i Iesu Grist yn syniad fy nhad; ac nis gallai addaw dim mwy i mi, wedi dysgu yr Hyfforddwr, na chael myned i'r Sasiwn i weled Henry Rees." Ac i'w weled hefyd yn hytrach na'i glywed. Ac y mae yr olwg gyntaf a gefais arno yn dod i mewn i gapel Salem mor fyw heddyw yn fy meddwl a dim a ddygwyddodd erioed yn fy hanes. A'i wylio ef yn y pulpud bychan, islaw y pulpud mawr, oedd fy ngwaith yn yr oedfa hono yn hytrach na gwrando ar y pregethau a draddodid.
Clywsom "John Hughes y Borth" hefyd yn pregethu yn Nolgellau yn Mehefin 1856. Cyfarfod Pregethu oedd yno y tro hwnw ; a chyfarfod bythgofiadwy ydoedd. Yr oedd yno bedwar o bregethwyr-John Hughes, Lerpwl; John Jones, Talysarn; Owen Thomas, Llundain; a John Hughes, y Borth. A dyna y tro cyntaf i mi glywed y tri olaf. Pa ryfedd i'r cyfarfod wneyd argraff ddofn ac arosol ar fy meddwl ieuanc? Pregethau nodedig a gafwyd yno gan y pregethwr ieuanc, canys nid oedd Dr. Hughes y pryd hwnw yn llawn 29 mlwydd oed. Ei destynau oeddynt 1 Ioan v. 4, 5, ac Actau xvii. 31.