Y tro cyntaf i mi ei glywed ar ol hyny oedd yn Sassiwn 1860. Yr oedd erbyn hyn wedi symud i Lerpwl er's dwy flynedd o amser, ac yn cael ei alw "John Hughes, Everton," i'w wahaniaethu oddiwrth awdwr "Methodistiaeth Cymru," yr hwn oedd yntau yn byw ar y pryd yn Liverpool. Bu efe farw Awst 8fed, 1860. Sassiwn fawr oedd hono i mi. Buaswn yn bur wael am wythnosau ychydig cyn hyny; ac yr oeddwn mewn llawer o bryder rhag na byddwn yn alluog i fyned iddi. Nid oedd gwres y diwygiad mawr wedi myned heibio yn llwyr, er nad oedd ychwaith yn gyfryw yn Mehefin ag a fuasai o Tachwedd hyd Mawrth. Lle rhyfedd oedd yn Nolgellau yn Nghyfarfod Misol Ionawr, 1860. Un oedfa o hono yn unig a gefais i. Nid oedd meddyg y pryd hwnw i'w gael yn nes i Aberllefeni na Dolgellau neu Fachynlleth; a disgynodd i'm rhan i fyned i Ddolgellau ddiwrnod y Cyfarfod Misol, i ymofyn â meddyg. Ac aethum yno yn foreu er mwyn cael un oedfa. Ac oedfa ryfedd ydoedd. Yn pregethu yr oedd y Parchedig Robert Williams, Aberdyfi, a'r Parchedig Edward Morgan, Dyffryn. Testyn Mr. Williams oedd Psalm ii. 12, Cusenwch y Mab," &c. Torid ar draws y pregethwr yn aml gan floeddiadau o bryder a gorfoledd; a mynych y rhoddai yntau ei ddau benelin ar y Beibl ac y cuddiai ei wyneb yn ei ddwylaw i wylo yn hidl. Testyn Mr. Morgan oedd Zephaniah iii. 17, "Yr Arglwydd dy Dduw yn dy ganol di sydd gadarn," &c. Gwelir y bregeth yn yr Ail Gyfrol o'i Bregethau. Ac yr oedd y dylanwad yn rhyfeddol gyda hi ar yr achlysur hwnw. Bu raid i mi droi tuag adref, er mor anhueddol, cyn oedfa y prydnawn. Y Parchedig Griffith Williams, Talsarnau, oedd un o'r brodyr a bregethai yn yr oedfa hono; ond torodd allan yn orfoledd mawr cyn iddo fyned yn mlaen ond ychydig gyda'i bregeth. "Yr oedd gan Iesu Grist feddwl mawr iawn o'i groes," meddai Mr Williams. "Felly y mae genon ninau," meddai merch ieuanc o'r gynulleidfa; ac ar y gair aeth y lle yn oddaith. Ni chafodd y pregethwr ddweyd yr un gair yn mhellach.
Ond, fel y dywedwyd, nid oedd gwres y diwygiad mor fawr yn y Sassiwn ag ydoedd yn y Cyfarfod Misol; ac eto yr oedd llawer o hono yn aros, a'r rhai mwyaf gwresog o'r eglwysi trwy yr holl wlad oeddynt wedi cyrchu i Ddolgellau yn Mehefin. Y cyfarfod ordeinio oedd y cyfarfod cyntaf i mi ei gael; ac yr oeddwn yn eistedd yn bur agos i'r un lle ag yr oeddwn ynddo yn y Sassiwn saith