odd yn hapus iawn. Nid oedd Mr. Rees yn or-hoff o'r gorfoledd yn amser y diwygiad ; ond bu raid iddo yntau y tro hwnw, gyda'r pethau gogoneddus oedd ganddo, ddygymod a thipyn o hono. Yn y prydnawn dechreuwyd yr oedfa, gyda hwyl anarferol, gan y Parchedig David Davies, Abermaw. Pregethodd yn gyntaf y Parchedig Rees Jones, Felinheli, oddiar Rhuf. xvi. 25, 26. Mynych y clywais ef wedi hyny yn son am yr oedfa hono fel oedfa galed ei oes. Ei bwnc oedd "Ufudd-dod Ffydd;" a thaflesid ef oddiar ei echel i fesur gan bregeth Mr. Rees yn y boreu ar "Ddeddf Ffydd." Ond yr oedd y bregeth yn gyfansoddiad cryf, a'r syniadau yn dangos yn eglur nodweddion arbenig meddwl Mr. Jones. Y tro diweddaf y clywais ef yn pregethu oedd yn Nghymanfa Gyffredinol Aberdar yn 1885, lle yr oeddwn yn cael y fraint o gyd-bregethu ag ef. Oedfa fendigedig oedd hono. Am yspaid yn y dechreu symudai yr olwynion yn araf; ac yr oedd ei ogwydd at fod yn drymaidd. Ond yn raddol fe gynhesodd, a chyda'r gwres daeth goleuni. Gwefreiddid y gynulleidfa, ac yn enwedig y rhan fwyaf deallus o honi, gan brydferthwch yn gystal a grym rhai o'i sylwadau. A chyn y diwedd yr oedd wedi enill llwyr feistrolaeth ar ei wrandawyr. Ond yn Nolgellau, yn 1860, rhaid addef nad oedd yr oedfa a gafodd mor hwyliog o gryn lawer ag ydoedd rhai o'r oedfeuon eraill. Ar ei ol cyfododd "John Hughes, Everton," a phregethodd oddiar Mat. x. 37, "Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi," &c. Nid oedd ar y pryd wedi cyrhaedd 33 mlwydd oed; ond galwyd ef, fel y gwelir, i bregethu yn olaf yn un o'r prif oedfeuon. Ac os nad wyf yn cam-gofio, cyhoeddwyd ef i bregethu drachefn yn yr hwyr gyda Mr. Rees; ond yr oedd hyny allan o'r cwestiwn ar ol yr oedfa fawr yn y prydnawn. Disgynodd y gorchwyl gan hyny i ran y Parchedig David Davies; a chafodd, fel y clywais wedi hyny, hwyl nodedig. Bu raid i mi droi tuag adref, er croesi y mynydd cyn nos, cyn yr oedfa hono.
Yn awr, yr wyf wedi dyfod at yr hyn yr wyf yn cyrchu ato o'r dechreu, desgrifiad o bregeth Dr. Hughes; ond ychydig iawn sydd genym i'w ddweyd. Ofer yw troi at y llyfr yr oeddwn yn cofnodi y pregethau ynddo; nid oes yno braidd ddim wedi ei ysgrifenu. Sefyll yr oeddwn o ddechreu yr oedfa i'r diwedd, yn y tyndra, yn lled agos at y stage, ac oblegyd hyny nid gorchwyl hawdd fuasai ysgrifenu o gwbl. Ond yr wyf yn cofio yn dda nas gallwn feddwl am ysgrifenu; yr oedd y bregeth yn cario fy holl ysbryd gyda hi, fel mai yn brin y