Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/227

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwyddwn i, mwy na chanoedd eraill, yn mha le yr oeddwn yn sefyll. Gogoniant Person a Chymeriad y Gwaredwr oedd ei phwnc, a dangosai fod ei hawl ar gariad dyn yn hawl resymol. Yr oedd yn cydgyfarfod ynddo holl degwch y ddaear, a holl brydferthwch y nef; holl rinweddau y ddynoliaeth, a holl gyflawnder y Duwdod. Ond nid oes genyf allu i gofio yn gywir lawer o'r desgrifiadau oeddynt yn cyffroi ac yn swyno y gynulleidfa. " Y mae yn rhagori ar ddeng mil. Deng mil o beth? Deng mil o'r peth a fynoch chwi. Deng mil o saint, deng mil o angylion, deng mil o gerubiaid, deng mil o seraphiaid, deng mil o arch-angylion os mynwch chwi, pe baent i'w cael-nid oes dim ond un." Ac yn y bregeth hono y cafwyd am y tro cyntaf sylwadau y bu yn eu gwneyd mewn pregethau eraill ar ol hyny. "Mi welaf Ioan yn myned at y gorchwyl o'i ddesgrifio. 'A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni; ac ni a welsom ei ogoniant Ef, gogoniant megys-megys, MEGYS. Ac mi debygaf weled cymhariaethau yr Hen Destament yn rhedeg at ei benelin, gan gynyg eu gwasanaeth iddo, ond nid oes yr un o honynt a wna y tro. Y mae yn eu troi ymaith i gyd, -' gogoniant megys yr Unig-anedig oddiwrth y Tad;' nid yw yn debyg i neb ond iddo ei hun." Rhyfedd oedd y dylanwad ar y gynulleidfa. O bob cwr o'r dyrfa-o'r wageni, a'r stages gerllaw stage y pregethwyr, ac o bob rhan o'r maes, dyrchafai bloeddiadau oeddynt yn fynych yn uwch na llais y pregethwr, ac yn y diwedd yn ei foddi braidd yn hollol. Traddodai gyda rhyw yni rhyfedd: taflai holl nerth ei natur yn wir i'r traddodiad. Ymddangosai fel un wedi llwyr anghofio ei hun. Ac nid gormod ydyw dweyd fod y pethau a draethid ganddo yn effeithio llawn gymaint ar y pregethwr ag oeddynt ar neb o'i wranddwyr. Ieuanc, fel y dywedais, oeddwn i pan yn gwrando y bregeth, ond nid wyf yn cofio gweled y Gwaredwr erioed yn fwy gogoneddus nag yr ymddangosai ynddi.

Bum yn siarad a Dr. Hughes am yr oedfa aml dro, ac er nad oedd yn ystyried y bregeth o lawer yn mysg ei rai goreu, teimlai fod rhywbeth hynod ynddi ar yr achlysur hwnw. Yr wyf yn credu yr edrychai ar yr oedfa yn Nolgellau yn 1860, fel un o rai hynotaf ei oes. Ac felly, yn ddiau, yr oedd yn syniad y rhai a gawsant gyfleusderau mynych i'w wrandaw ar adegau nodedig.

Grymus iawn oedd ei bregeth yn mhen deng mlynedd wedi hyny (1870) mewn Sassiwn yn Nolgellau, ar 1 Ioan iv. 17: "Yn hyn y