Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/228

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

perffeithiwyd ein cariad ni, fel y caffom hyder ddydd y farn," &c. Ond nid oedd ei gynulleidfa mor dwym y pryd hwnw, ac er grymused y bregeth nid oedd yr effeithiau ar y gwrandawyr yn gyffelyb. Y mae oedfa 1860 yn un o'r rhai yr wyf yn edrych yn ol arnynt, ac yn teimlo fod ynddynt yr hyn sydd anesgrifiadwy. A dweyd y gwir, croes iawn i'm teimlad fy hun ydyw gwneyd cais i osod ar bapyr yr hyn, pe gellid ei roddi yno, a beidiai a bod yr hyn ydyw. Fy unig esgus dros geisio myned o amgylch yr olygfa ydyw, dweyd wrth eraill ychydig am yr amgylchiadau yn mha rai y profais fy hun y pethau rhyfeddaf a brofais yn fy oes. Hir y parhao "Sassiwn" Cymru i feddu y dylanwad ar ein hieuenctyd a feddai ar fy ysbryd i yn nyddiau fy mebyd. Ac nid wyf yn cywilyddio dweyd fod ei swyn i mi heddyw lawn cymaint ag erioed. Ganwyd Dr. John Hughes, yn nhy'r capel, Llanerchymedd, Medi 27, 1827. Bu ei dad farw pan nad oedd ef ond 6 oed, ond bu ei fam fyw i gyraedd 72 oed, ac yr oedd yn wraig ragorol am ei phwyll a'i gras. Hynododd ei hun yn blentyn fel dysgwr ac adroddwr penodau.

Daeth yn ddarllenwr mawr yn fuan, ar lyfrau Cymraeg a Saesneg, ac i gael blas ar weinidogaeth y diweddar Barch. W. Roberts, Amlwch, ac eraill. Pan yn 20 oed, yn 1847, dechreuodd bregethu, a'r flwyddyn ddilynol aeth i Athrofa y Bala. "Dyddiau hyfryd, bendigaid," meddai, " oedd y tair blynedd y bum dan addysg Dr. Edwards a Dr. Parry." Yn 1852, priododd â Miss Dew, a symudodd i'r Borth (Menai Bridge). Yn 1857, symudodd i Le'rpwl, a threuliodd 32 mlynedd yno. Daeth yn boblogaidd iawn yno. Gelwid am ei wasanaeth i'r uchel-wyliau yn mhob parth o Gymru, a byddai ei weinidogaeth yn nerthol ac mewn dylanwad mawr yn fynych. Yr oedd coethder ei Gymraeg yn y pwlpud, a'i gynyrchion llenyddol, yn gymeradwy a chyfoethog iawn. Symudodd o Le'rpwl i Gaernarfon yn 1889, yn fugail eglwys Engedi. Daeth terfyn ei daith yn sydyn, nos Lun Hydref 23, 1893. Pregethodd deirgwaith y Sul cynt yn Amlwch, darlithiai yn Engedi nos Iau, a nos Wener yn Mhorthmadog bu yn siarad ar drydydd Jiwbili y Cyfundeb, a'r wythnos y bu farw yr oedd i fod ar daith drwy Leyn yn dathlu y Jiwbili. Yr oedd Dr. Hughes yn un o'r rhai a groesawid fwyaf gan y cynulleidfaoedd